Bôn-gelloedd yn cael eu trin ar ‘labordy ar sglodyn’ am y tro cyntaf
Wrth wireddu cam cyntaf project ymchwil cydweithredol mawr ar draws Ewrop sy’n trin y ddau fath o ganser mwyaf ymosodol yr ymennydd, daw’r partneriaid academaidd a diwydiant at ei gilydd yr wythnos hon (11-12 Gorffennaf) i drafod y camau nesaf.
Mae Prifysgol Bangor a’r partner diwydiannol, Creo Medical, hefyd yn cynnal gweithdy technegol ar y cyd, sef 'EM Field interaction with biological tissue for cancer and regenerative medicine' (13 Gorffennaf, Pontio 8.30-17.30). Bydd ar agor i’r cyhoedd, ac yn arddangos cyflawniadau diweddaraf y project ynghyd ag ymchwil ddiddorol o fentrau perthnasol.
Mae project SUMCASTEC yn cyfuno arbenigedd biolegwyr a pheirianwyr electronig blaenllaw er mwyn datblygu dyfeisiau microtechnoleg arloesol a fydd, yn y pen draw, yn gallu adnabod a thrin bôn-gelloedd canser Glioblastoma multiforme a Medulloblastoma. Un ymdriniaeth yw hon sy’n cael ei datblygu i ganfod gwellhad i un o’r canserau ymosodol a ddaeth i sylw’r cyhoedd yn ddiweddar gyda marwolaeth y gwleidydd blaenllaw, y Fonesig Tessa Jowell.
Un o dargedau datblygu cyntaf y project hwn yw creu dull ‘labordy ar sglodyn’ cyflym, cludadwy a dibynadwy fydd yn adnabod y math o gelloedd canser sydd dan sylw yn gyflym.
Yn ddiweddar mae’r partneriaid ymchwil ym Mhrifysgol Limoges wedi dangos eu defnydd llwyddiannus o sglodyn microsgopig i ddidoli bôn-gelloedd wedi eu heintio â chanser.
Y ffordd o adnabod y math o gell canser yw trwy wahaniaethu rhwng y celloedd yn ôl sut maent yn symud neu’n adweithio pan fydd meysydd electromagnetig anioneiddiol yn cael eu cyflwyno iddynt ar wyneb y sglodyn. Mae’r peirianwyr electronig yn gallu gwahaniaethu rhwng celloedd iach a gwahanol fathau o gelloedd canser trwy'r ffordd maent yn adweithio i'r tonnau electromagnetig yn y rhychwantau microdon ac optegol, ac maent yn gobeithio datblygu hyn ymhellach er mwyn adnabod ‘llofnod’ electromagnetig bôn-gelloedd canser.
Mae adnabod bôn-gelloedd yn bwysig gan fod gwyddonwyr yn credu eu bod yn chwarae rhan yn ailymddangosiad rhai canserau, gan gynnwys y ddwy ffurf ymosodol yma, wrth iddynt wrthsefyll triniaethau presennol ac achosi i’r tiwmor aildyfu. Mae triniaethau confensiynol yn targedu celloedd gwahaniaethol sy’n lluosogi’n gyflym, yn hytrach na bôn-gelloedd cwsg canser, sydd hefyd yn anodd eu hadnabod ar sail dulliau labelu safonol.
Ar hyn o bryd, gall gymryd hyd at 40 diwrnod ar ôl cael biopsi, i adnabod bôn-gelloedd tiwmorau ymennydd gan ddefnyddio dulliau labordy traddodiadol.
Trwy wneud defnydd o’r ffyrdd penodol y mae celloedd yn symud ac yn adweithio, yn eu gwaith micro labordy, mae'r ymchwilwyr hefyd yn anelu at niwtraleiddio bôn-gelloedd canser yn benodol yn y sglodyn. Yn y pen draw bydd hyn yn ysgogi datblygu offer electrolawdriniaethol newydd i drin y bôn-gelloedd canser ar safle'r tiwmor.
Meddai Dr Arnaud Pothier o Limoges “Am y tro cyntaf mae dyfais Labordy ar Sglodyn yn medru gwahaniaethu rhwng bôn-gelloedd yr ymennydd o blith celloedd gwahaniaethol a didoli o fewn munudau. Rydym wedi cyflawni’r cam hanfodol cyntaf tuag at ynysu a thriniaeth ddethol."
Mae rhai blynyddoedd o hyd nes bydd y ‘labordy ar sglodyn’ a'r offeryn triniaeth yn gweld golau dydd.
Yn ei waith gyda microbiolegwyr ym mhrifysgolion Padua a Limoges, mae Dr Cristiano Palego yn Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn defnyddio ei arbenigedd ym maes microelectroneg yn y project.
Wrth roi sylwadau ar lwyddiant cynnar y project, dywedodd fod cam cyntaf y project yn dod yn ei flaen yn dda, er gwaethaf dulliau gweithio pur wahanol biolegwyr a pheirianwyr.
“Mae gwir gyffro yn ein plith, nid yn unig am y potensial diagnostig sydd i’n hymdriniaeth, ond hefyd wrth i ni ddod â thechnolegau fel micro-hylifeg a microelectroneg, a oedd ar un adeg yn feysydd hollol ar wahân, ynghyd. Rydym yn grediniol fod potensial i ficro-electroneg yrru ymdriniaethau gofal iechyd newydd a chreu’r un math o naid cwantwm a drawsffurfiodd electroneg ym maes cyfathrebu personol,” meddai.
Cyllidir y project ymchwil arloesol hwn gan Raglen Fframwaith Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd am gyfnod o 42 o fisoedd. Yn y project mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yng Nghymru, Prifysgol Limoges yn Ffrainc, IHP Microelectronics yn yr Almaen a Phrifysgolion Padua a Rhufain yn yr Eidal yn gweithio gyda Creo Medical. Mae gan Creo Medical, cwmni a’i bencadlys yn ne Cymru, hanes cadarn o ddatblygu a gwerthu dyfeisiau meddygol sy’n gallu cyfeirio ynni microdon at darged penodol iawn i drin achosion megis canserau'r fron a'r coluddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018