Brasil ym Mangor
Bydd sylw pawb wedi ei hoelio ar Frasil eleni yn ystod cystadleuaeth Cwpan y Byd, ond ymddengys nad pêl-droed yw'r unig beth sy'n ennyn diddordeb pobl yn y wlad. Mae cerddoriaeth a dawns o Frasil wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn y degawdau diwethaf, ac mae academydd o Fangor yn gwneud ymchwil i'r 'ffasiwn' am gerddoriaeth a dawns 'Affro-Frasilaidd'.
Ac os yw gwylio rhaglenni am Gwpan y Byd ym Mrasil wedi ennyn diddordeb myfyrwyr Bangor am Frasil, yna gall myfyrwyr cerddoriaeth y brifysgol ddewis astudio modiwl am gerddoriaeth a diwylliant Brasil.
Mae Dr Jochen Eisentraut, y cyhoeddwyd ei lyfr "The Accessibility of Music" y llynedd gan Cambridge University Press, yn ymchwilio i'r ffordd y mae gorllewinwyr wedi mabwysiadu arferion diwylliannol Brasil megis cerddoriaeth samba, y grefft ymladd/ddawns capoeira a dawns Affro-Frasilaidd, ac mae'n cynnwys ffrwyth yr ymchwil hwnnw yn ei waith dysgu.
Dywedodd Dr Eisentraut:
"Mae Brazil yn wlad sy'n llawn diwylliannau, dinasoedd a thirweddau cyfareddol. Mae yna harddwch a chyfoeth mawr yno ond mae llawer o dlodi a thrais yno hefyd. Ond yn bennaf oll, rwy'n gweld Brasil fel rhan o'r byd sy'n llawn cyffro ac egni."
Dr Eisentraut yw'r cyntaf o Brifysgol Bangor i ennill grant partneriaeth a mudoledd rhyngwladol y British Academy (gwerth £10,000) sy'n caniatau i academyddion weithio gyda phrifysgol dramor ym maes ymchwil ac addysgu. Mae wedi gwneud ymchwil yn Salvador da Bahia, un o ddinasoedd Brasil, yn y gorffennol ac mae'r grant yn gymorth iddo feithrin cysylltiad â'r Universidade Federal da Bahia, ble mae wedi cyflwyno seminarau a gweithdai a chyfrannu at amryw o drafodaethau gyda'r myfyrwyr a'r staff.
Dywedodd Dr Eisentraut:
"Mae llawer o bobl o Ewrop a Gogledd America wedi ymddiddori mewn cerddoriaeth a dawns Affro-Frasilaidd yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn enghraifft hynod ddiddorol o globaleiddio a lledaenu diwylliannol sy'n mynd yn erbyn y llif arferol sy'n mynd o'r gorllewin i weddill y byd, ac mae hyn yn digwydd yn annibynnol ar unrhyw fasnach gorfforaethol. Mae rhai gorllewinwyr yn dod yn arbenigwyr yn y pethau hyn ac mae rhai ohonynt hyd yn oed yn eu dysgu i bobl o Frasil. Mae gennyf ddiddordeb mawr dod i wybod beth sy'n gwneud diwylliant Brasil mor ddeniadol, ond rwyf hefyd yn gofyn beth sydd ar goll yn y gorllewin sy'n gwneud i bobl fynd mor bell i chwilio am ffordd i fynegi eu creadigrwydd.
Mae Dr Eisentraut yn ddarlithydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Ynglŷn â'i fodiwl ar gerddoriaeth a diwylliant Brasil, dywedodd:
"Mae hwn yn fodiwl poblogaidd iawn gyda myfyrwyr oherwydd ei fod yn eu cyflwyno i rywbeth sy'n hollol wahanol i weddill eu hastudiaethau. Maent yn dysgu am y gerddoriaeth wrth gwrs, ond maent hefyd yn dysgu rhywfaint am hanes a gwleidyddiaeth Brasil, sy'n dod yn wlad gynyddol bwysig yn y byd, ac sy'n un o'r gwledydd yn y grŵp 'BRICS'. Mae Brasil yn cynnal Cwpan y Byd yno ar hyn o bryd a chaiff y Gemau Olympaidd eu cynnal yno yn 2016."
"Rwyf hefyd yn dysgu modiwl sy'n cyflwyno diwylliannau cerddoriaeth sy'n rhoi blas i fyfyrwyr ar gyfoeth anhygoel cerddoriaeth y byd. Er enghraifft, rydym yn astudio cerddoriaeth Arabaidd, Japaneaidd a Hwngaraidd a'r hyn maent yn ei olygu i bobl. Mae gennym hefyd gasgliad newydd a chyffrous o offerynnau egsotig er mwyn i'r myfyrwyr gael profiad ymarferol o'u chwarae."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2014