Breuddwydion Bro - Trigolion yn trafod cynllunio’u cymuned
Mae trigolion pentref yng Ngwynedd wedi bod yn astudio gorffennol a phresennol eu cymunedau er mwyn llunio cynlluniau ar gyfer darlun derbyniol o’r dyfodol.
Cynhelir cyfarfod cyhoeddus, lle rhoddir gwybodaeth am eu profiadau wrth ddilyn project Breuddwydion Bro - a all fod yn gynsail i’w ddefnyddio mewn ardaloedd eraill - yn stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod fore Mercher Awst 3 am 10.30.
Amcan Project Breuddwydion Bro yw galluogi cymunedau i elwa’n llawn ar yr adnoddau sydd o’u cwmpas gan sicrhau cynaladwyedd eu cymuned i’r dyfodol. Mae Breuddwydion Bro yn cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor fel un o brojectau Goleufa Cymru, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cynghorau Ymchwil y DU a’r Wellcome Trust.
Yn y project, bu’r trigolion yn cyfrannu syniadau blaengar a newydd am sut i leihau allyriadau, hybu’r economi leol a chynnal traddodiadau a diwylliannau’r fro.
Meddai Dr Eifiona Thomas Lane o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, sydd wedi bod yn arwain y project:
“Bu’r rhai a ddewisodd gymryd rhan yn disgrifio agweddau gwahanol ar eu cymunedau, gan gynnwys adeiladau a’r tirlun ac elfennau fel iaith, ffactorau economaidd neu’r ymdeimlad o gymuned.”
“Cafwyd trafodaeth am sut y daethpwyd i sefyllfa bresennol y gymuned, gan roi cyfle i aelodau hŷn y gymuned gyfrannu atgofion sut yr oedd pethau a pha newidiadau a fu.”
“Mae yna gyfle hefyd i edrych at y dyfodol a dychmygu sut gymuned yr hoffai’r bobol ei gweld yn datblygu.”
Yn sgil y canlyniadau bydd cynllun gweithredu i’r gymuned yn cael ei lunio. Hefyd, bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu efo awdurdodau cynllunio a datblygu lleol.
Os bydd yn llwyddiant gall y cynllun gael ei roi ar waith mewn cymunedau eraill gan roi llais i bobol wrth lunio dyfodol eu cymunedau.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011