Bron iawn hanner yr oedolion sy’n dioddef o iselder wedi cael eu pwl cyntaf yn ystod eu harddegau
Mae astudiaeth newydd gan seicolegwyr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Rhydychen yn dangos bod hanner yr oedolion sy'n dioddef o iselder clinigol wedi cael eu pwl cyntaf o iselder yn ystod eu harddegau. Yn wir, yr oedran mwyaf cyffredin i bobl ddioddef o iselder am y tro cyntaf yw rhwng 13-15 mlwydd oed.
'Roedd iselder yn arfer bod yn broblem oedd yn taro am y tro cyntaf yn ystod canol oed' meddai'r Athro Mark Williams o Brifysgol Rhydychen a arweiniodd yr astudiaeth gyda'r Athro Ian Russell a Rebecca Crane o Brifysgol Bangor. 'Ond yn ystod y degawdau diwethaf, dechreuodd ymchwilwyr ganfod bod cleifion yn ieuengach ac ieuengach wrth gael eu pwl cyntaf o iselder, tuedd sydd wedi cyfrannu at wneud iselder yn un o'r problemau iechyd pwysicaf ar draws y byd’'.
Fel rhan o'r astudiaeth, buont yn asesu faint oedd oedran pobl yn cael eu pwl cyntaf o iselder a'r cysylltiadau gyda phroblemau iechyd meddwl a theimladau hunanladdol yn ddiweddarach. Cymerodd 275 o bobl ran yn yr astudiaeth, ac roedd pob un wedi dioddef sawl pwl o iselder. Cawsant i gyd asesiad gofalus i ganfod faint oedd eu hoed pan gawsant y cyfuniad o symptomau sy’n dynodi iselder clinigol am y tro cyntaf. Yn yr erthygl a gyhoeddwyd y mis hwn yn y Journal of Affective Disorders, dangosodd yr ymchwilwyr bod 48 y cant o'r cleifion hyn wedi dioddef y salwch am y tro cyntaf cyn eu 18 oed. Yn wir, yr oedran mwyaf cyffredin i bobl ddioddef o iselder am y tro cyntaf oedd rhwng 13-15 mlwydd oed.
'Mae'r canlyniadau hyn yn bwysig oherwydd bod iselder yn broblem sy'n tueddu i daro eto. Os ydych wedi dioddef o iselder unwaith, yna mae siawns o tua 50:50 y byddwch yn dioddef o iselder eto. Os ydych wedi dioddef o iselder ddwywaith neu fwy, yna mae’r risg yn codi i 70-80 y cant. Ond y newyddion da yw bod llawer o bethau y gallwn ei wneud i atal hyn rhag digwydd. Gall therapïau siarad fel therapi gwybyddol ac mwybyddiaeth ofalgar ar sail therapi gwybyddol (MBCT) gael effaith mawr ar y math o iselder rheolaidd sy'n dechrau yn gynnar mewn bywyd. Hefyd mae ymchwilwyr yn dechrau archwilio sut orau i atal iselder cyn iddo droi’n broblem gydol oes.
Dywed Dr Rebecca Crane o Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor: 'Mae’r cwrs ymwybyddiaeth ofalgar ar sail therapi gwybyddol yn cynnig cyfle i bobl sy’n dioddef o iselder rheolaidd i gymryd rhan mewn proses hyfforddi sy'n adeiladu sgiliau i adnabod ac ymateb i'r arwyddion cyntaf o iselder.’
'Mae patrymau andwyol o feddwl a theimlo yn cael eu sefydlu dros gyfnodau rheolaidd o iselder. Mae ymwybyddiaeth ofalgar ar sail therapi gwybyddol yn dysgu pobl i adnabod ac ymateb i’r patrymau hyn mewn ffyrdd newydd.'
‘Rydym yn cynnig dosbarthiadau ymwybyddiaeth ofalgar i'r cyhoedd ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r cyrsiau yn agored i bawb ac felly nid ydynt wedi’u hanelu'n benodol at bobl sy'n dioddef o iselder rheolaidd – ond maent yn datblygu'r sgiliau y mae ymchwil wedi dangos sy’n berthnasol i bobl sy'n agored i iselder'.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2012