Brwydr Bangor yn erbyn Canser Ofarïaidd
Mae dydd Sadwrn 4 Chwefror wedi’i ddynodi’n Ddiwrnod Canser y Byd. Bob blwyddyn, mae oddeutu 300,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser yn y DU. Oherwydd datblygiadau mewn gwaith ymchwil a thriniaeth at ganser, mae cyfraddau goroesi canser yn y DU wedi dyblu, ac erbyn hyn, mae hanner y bobl sy’n cael diagnosis o ganser yn goroesi am o leiaf 5 mlynedd.
Yn ddiweddar, mae Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd-Orllewin wedi lansio’r ymgyrch O-very, sydd yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chodi proffil canser ofarïaidd a’i symptomau. Canser yr ofari yw’r lladdwr gynaecolegol mwyaf yn y DU sy’n effeithio ar bron i 7,000 o fenywod bob blwyddyn. Ac yntau wedi’i alw’n ‘lladdwr mud’, am ei fod yn hawdd drysu’r symptomau â phroblemau eraill ar yr abdomen, mae canser ofarïaidd yn anodd ei ganfod cyn iddo ymledu i rannau eraill o’r corff. Mae hyn yn ei wneud yn anodd ei drin ac, ar gyfartaledd, mae llai na thraean y cleifion yn goroesi am fwy na 5 mlynedd ar ôl diagnosis. Bydd cynyddu ymwybyddiaeth ymysg merched o’r symptomau cynnar yn arwain at ganfod y canser yn gynt ac yna’n cynyddu cyfraddau goroesi.
Rhan bwysig o’r frwydr yn erbyn canser yw deall y wyddoniaeth sylfaenol ynglŷn â sut mae canser yn datblygu. Ar hyn o bryd, mae gwyddonwyr yn Sefydliad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd-Orllewin ym Mhrifysgol Bangor, Dr Ramsay McFarlane a’r Athro Nick Stuart, yn defnyddio’r technolegau diweddaraf i ganfod dangosyddion newydd o ganser mewn samplau cleifion â thiwmor ofaraïidd.
Dywedodd Dr Ramsay McFarlane, “Nod yr ymchwil hwn yw gwella’r diagnosis a thrin canser ofarïaidd, gyda golwg tymor hir ar gynyddu’r cyfraddau goroesi ymysg menywod sydd â chanser yr ofari.”
Dywedodd Anne Jackson, Prif Weithredwr Sefydliad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd-Orllewin, “Ein nod yw nid yn unig codi ymwybyddiaeth am symptomau’r clefyd hwn, ond hefyd codi arian hanfodol i gefnogi gwaith anhygoel y mae ein hymchwilwyr yn ei wneud. Heb wybod beth sy’n achosi canser a sut mae’n ymledu, ni fyddwn byth yn dod o hyd i iachâd.”
Am fwy o wybodaeth, neu os hoffech i gefnogi ymchwil Sefydliad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd-Orllewin, cysylltwch â Dr Edgar Hartsuiker, NWCRF, Adeilad Brambell, Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2UW, e.hartsuiker@bangor.ac.uk neu ewch i www. nwcrf.co.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2012