BTO Cymru yn nythu yn eu swyddfa newydd yn y Brifysgol
Torrwyd cacen ddathlu gan Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor yn nerbyniad agoriadol Ymddiriedolaeth Adareg Prydain – Cymru (BTO) yn ddiweddar. Mae’r BTO newydd ymgartrefu mewn swyddfeydd newydd Adeilad Thoday wrth ymyl yr Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy). Rhoddodd Dr Christine Cahalan, Pennaeth SENRGy araith fer i groesawu'r BTO i'r Brifysgol, ac eiliwyd hi gan yr Is-Ganghellor.
Mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) yn sefydliad ymchwil annibynnol sy'n cysylltu gwyddonwyr o blith y dinasyddion ag adaregwyr proffesiynol. Nod yr elusen yw defnyddio tystiolaeth o newid mewn poblogaethau bywyd gwyllt, yn enwedig adar, i hysbysu’r cyhoedd, y rhai sy’n ffurfio barn a pholisi amgylcheddol, a rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Oherwydd safbwynt diduedd yr Ymddiriedolaeth, mae modd i’r Llywodraeth a sefydliadau cadwraethol ddefnyddio ei data a’i gwybodaeth. Yn ogystal â’i phencadlys yn Thetford, mae gan yr elusen swyddfa yn yr Alban (wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Stirling) a swyddog BTO Iwerddon. Lansiwyd BTO Cymru yn swyddogol yn Sioe Frenhinol Cymru yn gynharach eleni.
Mae gan BTO Cymru ddau aelod staff parhaol: Swyddog Datblygu Cymru, sef Kelvin Jones, a’r Uwch Ecolegydd Dr Rachel Taylor, a ymunodd â’r BTO o SENRGy dechrau mis Hydref. Roeddynt yn falch o groesawu nifer o aelodau staff y Brifysgol, ynghyd â ffrindiau hen a newydd, o’r CCGC, RSPB, CEH, BSBI, Parc Cenedlaethol Eryri, Radio Cymru a’r Herald Cymraeg, ymysg rhai o gynrychiolwyr gwirfoddoli Rhanbarthol y BTO, ynghyd â chofnodwyr data gwirfoddol brwdfrydig eraill y mae cymaint o waith pwysig cenedlaethol y BTO yn dibynnu arnynt. Cawsant eu hanrhydeddu hefyd gan ymweliad Mr Peter Hope Jones, sydd wedi cyfrannu mewn modd dihafal at adareg yng Nghymru.
Meddai Kelvin;
”Rydym wedi derbyn croeso cynnes iawn yma yn y Brifysgol a theimlwn fod hyn yn ddechrau rhywbeth mawr ar gyfer y BTO yng Nghymru.”
Ychwanegodd Rachel;
”Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i barhau i adeiladu ar ein partneriaethau sy'n bodoli eisoes yng Nghymru, ac i ehangu ymchwil wyddonol y BTO er budd adar yng Nghymru. Mae Prifysgol Bangor yn fan cychwyn perffaith ar gyfer y fenter hon oherwydd y wybodaeth a’r profiad gwych a geir yma, ynghyd â chysylltiadau agos â CCGC, RSPB ac eraill”.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2011