Buddsoddi mewn Mawndiroedd - Arddangos Lllwyddiant
Mae mawndiroedd y DU yn dal dros 3 biliwn tunnell o garbon ond, oni bai ein bod yn cymryd camau rhag blaen i drwsio difrod a wnaed yn y gorffennol, gallai’r storfeydd hyn ryddhau symiau enfawr o garbon i’r atmosffer. Yn y DU ceir rhai o enghreifftiau gorau’r byd o adfer mawndiroedd, sydd nid yn unig yn helpu i atal rhyddhau carbon, ond hefyd yn gwarchod bioamrywiaeth bwysig ac adnoddau dŵr gwerthfawr.
Mae cynhadledd o bwys ar fawndiroedd ym Mhrifysgol Bangor – Buddsoddi mewn Mawndiroedd – Dangos Llwyddiant – (26-28 Mehefin 2012) yn dod ag arbenigwyr byd enwog at ei gilydd i dynnu sylw at bwysigrwydd mawndiroedd. Mae mawndiroedd yn bwysig i hinsawdd, rheoli dŵr a chadwraeth bioamrywiaeth.
Bydd y gynhadledd yn clywed canlyniadau Comisiwn Ymchwiliad IUCN diweddar ar fawndiroedd sy’n egluro’r hyn sydd raid ei wneud i ddiogelu ac adfer ein mawndiroedd gwerthfawr. Bydd cyhoeddiad newydd gan Raglen Mawndiroedd IUCN UK ‘Peatland Restoration – Demonstrating Success’ hefyd yn cael ei lansio gan roi sylw i brojectau adfer llwyddiannus ledled gwledydd Prydain. Mae astudiaethau achos yn egluro’r cyfleoedd sydd ar gael i adfer mawndiroedd a’u rheoli’n gynaliadwy, yn ogystal â ffyrdd arloesol o gael pobl i gymryd rhan mewn gweithredu cadwriaethol.
Tra bo’r rhan fwyaf o fawndiroedd Prydain wedi cael eu niweidio’n sylweddol, mae camau breision yn cael eu gwneud o ran eu hadfer ac ymladd yn ôl yn erbyn effeithiau gwaethaf newid hinsawdd. Mae’r gynhadledd a’r llyfryn yn dathlu llwyddiannau cyfredol a pharhaus ym maes adfer mawndiroedd. Meddai Cadeirydd Rhaglen Mawndiroedd IUCN, Dr. Rob Stoneman “Ym mhob rhan o Brydain, ym mhob tirwedd mawndir, mae pobl - yn rheolwyr tir, cwmnïau, cadwraethwyr, gwneuthurwyr polisïau a gwyddonwyr - wedi dod at ei gilydd i adfer yr ecosystemau hyn sydd wedi’u niweidio.”
“Mae’n wych o beth gweld Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd sydd mor allweddol bwysig i ddyfodol mawndiroedd Prydain,” ychwanegodd yr Athro Chris Freeman. “Gydag arbenigwyr ar fawndiroedd i’w cael ar draws y Brifysgol, swyddfeydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, mae Bangor mewn sefyllfa ddelfrydol i sicrhau y bydd yr achlysur yn llwyddiant mawr."
Dywedodd Peter Jones, Ecolegydd Mawndir Cyngor Cefn Gwlad Cymru: “Mae’r diddordeb mewn adfer ein hadnodd mawndir gwych yr uchaf y bu erioed. Mae eu pwysigrwydd i fywyd gwyllt yn cael ei sylweddoli erbyn hyn, ond bellach mae gwerthfawrogiad cynyddol hefyd o’r rôl hanfodol sydd ganddynt mewn storio a dal carbon ac felly helpu i reoli lefelau carbon deuocsid yn yr atmosffer. Gallant helpu hefyd i reoli llif y dŵr i nentydd ac afonydd a’i gemeg hefyd. Mae rheoli ac adfer mawndiroedd felly yn enghraifft wych o sut rydym yn rheoli’n tirwedd i gael buddiannau lluosog.”
Caiff y cynadleddwyr gyfle i weld gweithredu i ddiogelu mawndiroedd ar waith drwy fynd ar ymweliadau maes i weld project LIFE Active Blanket Bogs yng Nghymru a phroject LIFE Corsydd Môn a Llŷn, sy’n cael ei gwblhau ar hyn o bryd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2012