Buddsoddiad £36m sy’n cael cymorth gan yr UE mewn ymchwil ac arloesi ar gyfer busnesau yng Nghymru
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi cynllun newydd £36m sy’n cael cymorth gan yr UE i ddatblygu sgiliau ymchwil ac arloesi ar gyfer graddedigion, a fydd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â busnesau bach a chanolig (BBaCh).
O dan gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS II), bydd academyddion a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn gweithio mewn partneriaeth â mwy na 500 o fusnesau. Byddant yn cydweithio i ddatblygu prosiectau ymchwil arloesol gyda’r nod o ysgogi twf mewn busnesau.
Bydd y cynllun, a fydd yn elwa ar £26m o gyllid gan yr UE, yn caniatáu i fwy na 600 o raddedigion elwa ar gyfleoedd i ddatblygu fel gweithwyr ymchwil proffesiynol, a hynny drwy raglenni Ymchwil ar lefel gradd Meistr a PhD a fydd yn cael eu hariannu gan y cynllun.
Bydd cynllun KESS II, a fydd yn cael ei arwain gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â phrifysgolion eraill yng Nghymru, yn cael ei roi ar waith yn y Gogledd, y Gorllewin ac yng Nghymoedd y De dros y chwe blynedd nesaf.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’n newyddion gwych i’r cannoedd o fusnesau sy’n mynd i elwa o gydweithio â’n prifysgolion mewn ymchwil a datblygu, ac i’r bobl ifanc dalentog sydd am ddatblygu sgiliau ac arbenigedd ar lefel uchel yng Nghymru.
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan yr UE a fydd yn helpu i alinio ymchwil ag anghenion busnesau bach gan ysgogi sgiliau ar lefel uwch yng Nghymru dros y blynyddoedd sydd i ddod. Mae’n enghraifft glir o sut mae Cymru ar ei hennill oherwydd bod y DU yn aelod o’r UE.”
Bydd y cynllun KESS II yn canolbwyntio wrth gydweithio â BBaChau ym maes ymchwil ar sectorau allweddol economi Cymru gan gynnwys gwyddorau bywyd, deunyddiau a pheirianneg uwch, ynni carbon isel, TGCh a’r economi ddigidol. Mae’n datblygu ar lwyddiant y cynllun KESS cyntaf a gefnogodd waith ymchwil a datblygu ar y cyd â 380 o fusnesau Cymru rhwng 2009 a 2015, gan arwain at dros 400 o raddau Ymchwil ar lefel gradd Meistr a PhD.
Dywedodd yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o arwain y sector addysg uwch yng Nghymru trwy’r cynllun pellgyrhaeddol, trawiadol hwn sy’n derbyn cymorth gan yr UE. Bydd gwerth £26 miliwn o gyllid gan yr UE yn galluogi KESS II i gynnig 645 o brosiectau PhD a Meistr Ymchwil, pob un ar y cyd â busnesau lleol mewn wyth Prifysgol yng Nghymru.”
Ychwanegodd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Effaith ym Mhrifysgol Bangor: “Bydd y rhaglen KESS II yn sicrhau y bydd Prifysgolion Cymru yn parhau i ddatblygu ymgeiswyr PhD a Meistr Ymchwil o safon sy’n meddu ar ddealltwriaeth dda o anghenion busnesau.
“Bydd KESS II yn cefnogi mentrau yn y Gogledd, y Gorllewin a’r Cymoedd i sefydlu ymchwil ac arloesi sy’n cyd-fynd â’r gwaith o ddatblygu sgiliau lefel uwch â manteision i fusnesau. Bydd y cynllun hwn yn creu manteision sylweddol i bobl, busnesau a’r economi.”
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016