Bwrlwm a Llechi: Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016
Bydd presenoldeb Prifysgol Bangor i’w weld a’i glywed ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau yn llenwi wythnos y brifwyl yn Sir Fynwy.
Fore Llun rhwng 11:00 a 12:00, bydd y brifysgol yn lansio Gweledigaeth Newydd Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth. Yna, Y Chwyldro Digidol a’r Gymraeg fydd yn llenwi’r prynhawn rhwng 14:00 a 17:00, gyda chyflwyniadau gan aelodau’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar le a defnydd y Gymraeg ar lwyfannau digidol a thrafodaeth ar arolwg ‘Generation Beth?’ a fu’n ffrwyth cydweithio rhwng Prifysgol Bangor, S4C a Cwmni Da. Bydd Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yna’n cynnal sesiwn ar yr adnoddau terminolegol diweddaraf i gloi’r prynhawn.
Ddydd Mawrth, bydd Ysgol y Gymraeg yn lansio cynllun gradd newydd, Cymraeg Proffesiynol, ar y stondin rhwng 12:00 ac 13:00. Yna, o 14:00 ymlaen, bydd Gwenan Prysor (Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor) yn cadeirio sesiwn Bwyd i’r enaid: rôl diwylliant ym maes gofal, yng nghwmni Malan Wilkinson, Manon Rhys, Cefin Roberts a Mared Llwyd.
Yn parhau â thema diwylliant a’r celfyddydau, bydd cylchgrawn llenyddol newydd yn cael ei lansio ar stondin y Brifysgol rhwng 11:00 a 12:30 ddydd Mercher. Dewch i glywed tîm golygyddol O’r Pedwar Gwynt, Sioned Puw Rowlands, Owen Martell a Mari Siôn yn trafod eu cynlluniau cyffrous ar gyfer y cylchgrawn newydd.
Prif ddigwyddiad y dydd fydd Aduniad Prifysgol Bangor – digwyddiad hynod boblogaidd sy’n gyfle gwych i alumni a chyn-aelodau staff y Brifysgol a’r Coleg Normal gyfarfod a rhannu atgofion dros wydriad o win a lluniaeth ysgafn. Bydd yr aduniad yn dechrau am 14:00 ac mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at groesawu hen ffrindiau.
I gloi diwrnod llawn bwrlwm, bydd band amryddawn o ardal Llanrug, Y Galw yn chwarae set ar y stondin am 16:00.
Bydd y gwethgaredd yn parhau ddydd Iau, gyda chyfarfod Bwrlwm Bro a arweinir gan Dr Catrin Hedd Jones o Ysgol Seicoleg y Brifysgol am 12:00.Mae croeso i bawb ymuno mewn trafodaeth o gylch os yw, a sut y mae’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn meithrin cymunedau gwydn a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru.
Er yn cyfeirio’n ôl at y ganrif ddiwethaf, digon amserol yw testun darlith BARN eleni, wrth i Bethan Kilfoil drafod Cyfeillion ffyddlon yn Ewrop – O 1916 i Brexit: ailddiffinio’r berthynas rhwng Iwerddon a’i chymdogion a’r gwersi posib y gall Cymru ei dysgu o hynny. Bydd y ddarlith yn dechrau am 13:00 a chroeso mawr i bawb.
Camu i fyd mathemateg a wneir am 15:00, wrth i’r Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts gyflwyno’i gyfrol ddiweddaraf, Count us in, sy’n parhau â bwriad yr awdur o boblogeiddio mathemateg drwy archwilio’i rôl yn ein bywydau beunyddiol.
Gan ddwyn hanes sefydlu’r brifysgol i gof a chyfraniad hollbwysig y diwydiant llechi i’r fenter honno, priodol felly yw neilltuo diwrnod cyfan o weithgareddau i drafod cysylltiadau cyfredol y Brifysgol â’r graig. Am 12:00 ar ddydd Gwener (Diwrnod y Llechi), bydd tudalen Facebook Enwebiad Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru yn cael ei lansio ac am 12:45 ceir cyfle i glywed profiadau plant Ysgol Gynradd Pentreuchaf yng Ngwynedd a fu’n cyd-weithio â chwmnïau Halen Môn a Cerrig ar gynllunio, creu a gwerthu llestri dal halen allan o lechi.
All statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO a threftadaeth yn gyffredinol fod yn fodd o adfywio economi'r ardaloedd ôl-ddiwydiannol? Galwch heibio’r stondin am 13:00 i wrando ar drafodaeth Gwerth y Byd?
Boed yn gorau meibion neu grwpiau rap, mae’r ardaloedd chwarelyddol wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y sin gerddorol yng Nghymru. Am 14:00, bydd cwmni Sain yn lansio Llechi, casgliad o ganeuon sydd wedi eu hysbrydoli gan gymunedau ac ardaloedd y llechi. Priodol felly yw cloi gweithgareddau’r dydd â set gerddorol gan un sydd wedi ei eni a’i fagu yn un o’r bröydd hynny, sef y canwr adnabyddus o Flaenau Ffestiniog, Gai Toms, a hynny am 14:30.
Bydd aelodau staff Canolfan Cynefin ym Mhrifysgol Bangor ar y stondin ddydd Gwener i hel straeon y cyhoedd am ddiwylliant ac iaith Cymraeg a lle Cymru ar lwyfan ryngwladol, fel yr ydym yn troedio i gyfnod wedi Brexit. Bydd effaith Brexit hefyd yn cael ei thrafod. Mae’r Ganolfan yn bwriadu cyflwyno darlun naratif o Gymru yn 2016 yn seiliedig ar y canlyniadau.
Daw gweithgareddau i ben ar y stondin wedi dwy sesiwn gan fandiau lleol i ardal y brifysgol, sef Y Galw unwaith eto am 14:00 a'r Chwedlau am 15:00 ddydd Sadwrn.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2016