Bwrw Golwg Newydd ar Glasur Rhyddiaith y Rhyfel Byd Cyntaf
Nos Lun, 28 Gorffennaf, ar drothwy canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, bydd yr Athro Gerwyn Wiliams yn cyflwyno rhaglen ddogfen ar S4C yn ailedrych ar un o’r nofelau gorau a ysgrifennwyd am gyflafan ryngwladol 1914-18.
Cyhoeddwyd Gwaed Gwirion gan Emyr Jones gyntaf yn 1965, ac yn ystod yr hanner canrif ers hynny, ymsefydlodd fel clasur modern. Yn ôl Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg sydd wedi arbenigo ar yr ymateb llenyddol i’r Rhyfel Byd Cyntaf, un o’r rhesymau am ei llwyddiant yw defnydd byw ei hawdur o’r iaith lafar.
“Mae hi’n defnyddio’r Gymraeg fel erfyn mynegiant mor hyblyg a gafaelgar. Ac mae ei defnydd digyfaddawd o’r iaith lafar mor flaengar ac arloesol â’r hyn a geir yn nofel chwyldroadol Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, a gyhoeddwyd bum mlynedd ynghynt.”
Ond er mor gyfarwydd oedd Gerwyn Wiliams â’r testun, roedd yr hyn a ddarganfu wrth ymchwilio ar gyfer y rhaglen deledu yn destun syndod iddo.
“Cefais fy ngorfodi i edrych ar y gyfrol gyfarwydd hon mewn goleuni cwbl newydd wrth i’r rhaglen ddathlu wreiddiol droi’n fwy o raglen dditectif yn y pen draw.”
Bydd y rhaglen ddogfen a gynhyrchwyd gan Huw Chiswell o Gwmni Ffranc yn cael ei darlledu am 9.30 nos Lun, 28 Gorffennaf ar S4C gydag isdeitlau Saesneg.
Gerwyn Wiliams a wahoddwyd hefyd i draddodi Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Am 11.00 o’r gloch fore Mawrth, 5 Awst yn y Babell Lên, bydd yn trafod cefndir Gwaed Gwirion a’r rhaglen deledu yn ‘Cofio a Ffuglenoli’r Rhyfel Byd Cyntaf’.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod hefyd fe gyhoeddir argraffiad newydd sbon o Gwaed Gwirion gan Wasg Gomer gyda rhagymadrodd cynhwysfawr gan Gerwyn Wiliams.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014