Bwyd a Diod Gogledd Cymru yn mynd yn wyrdd gyda Cynnal Cymru
Mae pobl o'r sector bwyd a diod yng ngogledd Cymru, sector sy’n ffynnu, yn ehangu ac yn bwysig i’r economi leol, yn dod ynghyd am y tro cyntaf ddydd Mercher 5 Gorffennaf, 2017 ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer ‘digwyddiad dysgu a rhwydweithio’ gan Cynnal Cymru.
Am y tro cyntaf erioed, bydd pobl o'r sector bwyd a diod, sector pwysig yng ngogledd Cymru ar gyfer datblygu’r economi leol, yn dod at ei gilydd ‘i ddysgu a rhwydweithio’ fel rhan o ddigwyddiad arbennig a drefnir gan Cynnal Cymru – Sustain Wales ar ddydd Mercher 5 Gorffennaf 2017 ym Mhrifysgol Bangor.
Cynnal Cymru yw’r sefydliad mwyaf blaenllaw yng Nghymru ar gyfer datblygu cynaliadwy ac sydd wedi creu’r cyfle yma ar gyfer cyfnewid gwybodaeth mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ac Adnodd. Pwrpas y digwyddiad yw archwilio arloesedd gwyrdd a fydd yn arwain at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol yn y sector bwyd a diod. Dyma elfen allweddol o Gynllun Gweithredu Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, sydd am weld y sector yn tyfu 30% i £7 biliwn erbyn 2020.
Yn ogystal â siaradwyr gwadd ac astudiaethau achos, bydd y diwrnod yn gyfle i gynrychiolwyr drafod materion manwl gyda chyd-weithwyr proffesiynol ac archwilio ystod eang o stondinau a fydd yn arddangos ansawdd ac amrywiaeth cynhyrchion o’r sector bwyd a diod yng Ngogledd Cymru. Bydd y diwrnod yn gorffen gyda noson arbennig a threfnir gan Cynnal Cymru, sef 'Diodydd Gwyrdd'.
Dyma’r digwyddiad cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru ac mae’n gyfle i fusnesau o'r un meddylfryd i ddod ynghyd, rhwydweithio’n anffurfiol a thrafod eu hymrwymiad i'w cyfrifoldebau amgylcheddol ac egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Mae mynediad i’r ddau ddigwyddiad yn rhad ac am ddim i fusnesau a phobl sydd â diddordeb proffesiynol mewn cynaliadwyedd neu’r sector bwyd a diod. Fodd bynnag, mae'n hanfodol i archebu lle, gan fod lleoedd yn gyfyngedig. Gellir archebu eich lle drwy'r ddolen hon: https://www.ticketsource.co.uk/event/ELJHJI
Dywedodd Dr Eifiona Thomas Lane, Darlithydd mewn Daearyddiaeth Bwyd a Rheolaeth Amgylcheddol yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor:
"Mae cynaliadwyedd yn ganolog i genhadaeth Prifysgol Bangor. Rydym yn yr Ysgol yn canolbwyntio ar gefnogi a gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod ar draws y rhanbarth er mwyn eu galluogi i fanteisio ar arloesedd gwyrdd a dod yn fwy cystadleuol a chynaliadwy. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'n partneriaid i gyrraedd mwy o gwmnïau a sefydliadau yn y rhanbarth. "
Dywedodd Mari Arthur, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru:
"Rydym yn awyddus iawn i glywed gan sefydliadau ac unigolion blaenllaw yng ngogledd Cymru sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd. Mae gennym eisoes aelodau blaenllaw yng ngogledd Cymru, megis Halen Môn, a hoffem weld eraill sy’n rhannu’r un egwyddorion ac ymarfer da yn ymuno â’r gymuned hon. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau tebyg yn ne Cymru, ond rydym yn awyddus i estyn y cyfleoedd hyn i ogledd Cymru hefyd, er mwyn i ni allu cynnig yr un cyfleoedd cyffrous i gysylltu, cydweithio a rhannu datblygiadau ar hyd Cymru gyfan.”
Mae aelodaeth Cynnal Cymru yn agored i bob busnes a sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddarparu Cymru garbon-isel, oddefgar, gyda adnoddau effeithlon, iach a diogel ac addysg dda, sy'n ffynnu mewn cytgord â natur. Mae manteision aelodaeth yn cynnwys gostyngiadau ar gyfer digwyddiadau, hyfforddiant, ac ymgynghori, yn ogystal â chymorth wrth hybu, cynorthwyo wrth sefydlu partneriaethau newydd a darparu cyngor anffurfiol ar strategaeth ac arloesi.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2017