Bwyta byrbrydau a BMI yn cael eu cysylltu ag effaith ddwbl gweithgaredd yr ymennydd a hunanreolaeth
Mae ymchwil newydd wedi darganfod bod bwyta byrbrydau ac Indecs Mas y Corff (BMI) yn gysylltiedig â gweithgaredd yr ymennydd a hunanreolaeth.
Darganfu’r ymchwil, a wnaed gan academyddion o Brifysgolion Caerwysg, Caerdydd, Bryste a Bangor, bod ymateb ‘canolfan wobrwyo’ ymennydd unigolyn i luniau o fwyd yn darogan faint fyddent yn ei fwyta wedyn. Roedd yn ymddangos bod hyn yn cael mwy o effaith ar faint roeddent yn ei fwyta na’u teimladau ymwybodol o fod eisiau bwyd neu faint roedd arnynt eisiau’r bwyd.
Roedd ymateb cryf o’r ymennydd hefyd yn gysylltiedig ag ennill pwysau (BMI), ond dim ond mewn unigolion a nododd ar holiadur nad oedd ganddynt lawer o hunanreolaeth. Yn achos rhai a ddywedodd bod ganddynt lefelau uwch o hunanreolaeth, roedd ymateb cryfach o’r ymennydd i fwyd yn gysylltiedig â BMI is mewn gwirionedd.
Mae’r astudiaeth hon, a gyhoeddwyd erbyn hyn yn y cyfnodolyn NeuroImage, yn ychwanegu at dystiolaeth gynyddol bod cyswllt rhannol rhwng gorfwyta ac ennill pwysau â rhan o’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag ysgogi a gwobrwyo. Enw'r rhan hon yw nucleus accumbens. Dangoswyd bod ymatebion yn y rhan hon o’r ymennydd yn darogan ennill pwysau mewn pobl o bwysau iach a phobl ordew, ond dim ond nawr mae academyddion wedi darganfod bod hyn yn annibynnol ar deimladau ymwybodol o fod eisiau bwyd, a bod hunanreolaeth hefyd yn chwarae rhan allweddol.
Yn dilyn y canlyniadau hyn, mae academyddion ym Mhrifysgolion Caerwysg a Chaerdydd wedi dechrau profi dulliau ‘hyfforddi’r ymennydd’, er mwyn lleihau dylanwad manylion a lluniau o fwyd ar unigolion a ddywedodd nad oedd ganddynt lawer o hunanreolaeth. Mae profion tebyg yn cael eu cynnal i helpu rhai sy’n gaeth i gamblo neu alcohol.
Meddai Dr John Parkinson, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor: “Mae gan ein hastudiaeth oblygiadau pwysig i’n dealltwriaeth o sut mae pobl yn mynd yn ordew - a sut y gallant golli pwysau hefyd - materion sy’n wirioneddol bwysig i iechyd pobl Cymru. Does neb yn dewis mynd yn ordew, a’r hyn mae’r ymchwil yma’n ei awgrymu yw nad ein meddyliau ymwybodol sy’n achosi i ni orfwyta. Yn hytrach, mae lluniau o fwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster a siwgr yn cael mynediad uniongyrchol at systemau ysgogi yn ein hymenyddiau gan ein harwain i orfwyta. Mae i hyn oblygiadau o ran Newid Ymddygiad - maes y mae gan Brifysgol Bangor arbenigedd byd enwog ynddo - sef sut rydym yn helpu pobl i roi’r gorau i orfwyta. Yn un peth gellir ceisio lleihau nifer y delweddau mae pobl yn eu gweld sy’n eu hysgogi i fwyta - rhywbeth y mae llywodraeth Prydain yn ceisio ei wneud ar hyn o bryd gyda phecynnau sigaréts. Ar y llaw arall, gellwch ganolbwyntio ar yr unigolion eu hunain a’u helpu i feithrin hunanreolaeth - rhywbeth y mae ymchwilwyr ym Mangor yn gweithio arno ar hyn o bryd.”
Meddai Dr Natalia Lawrence o Brifysgol Caerwysg, prif ymchwilydd ar yr ymchwil wreiddiol ac yn yr astudiaethau newydd: “Mae ein hymchwil yn awgrymu pam fod rhai unigolion yn fwy tebygol o orfwyta ac ennill pwysau nag eraill pan maent yn gweld delweddau cyson o fyrbrydau a phethau da. Mae lluniau o fwydydd, megis y rhai a ddefnyddir mewn hysbysebion, yn achosi cynnydd uniongyrchol yn ‘rhannau gwobrwyo’ ymennydd rhai unigolion ond nid ydynt yn effeithio ar eraill. Os yw’r unigolion sensitif hynny yn cael trafferth hefyd gyda hunanreolaeth, yna maent yn fwy tebygol o fod yn ordrwm. Rydym yn awr yn datblygu rhaglenni cyfrifiadurol rydym yn gobeithio fydd yn hyfforddi’r ymennydd i ymateb yn llai positif i luniau o fwydydd ac yn y blaen.”
Cymerwyd rhan yn yr astudiaeth gan 25 o ferched ifanc iach gyda BMIs yn amrywio o 17 – 30. Dewiswyd merched i gymryd rhan oherwydd mae ymchwil yn dangos bod merched yn ymateb yn gryfach i ddeunydd yn ymwneud â bwyd. Mae newidiadau hormonaidd yn ystod y cylch mislifol yn effeithio ar yr adwaith hwn, felly roedd pob un o’r cyfranogwyr yn cymryd y bilsen atal cenhedlu monophasig gyfunol. Nid oedd y cyfranogwyr wedi bwyta am o leiaf chwe awr er mwyn sicrhau eu bod yn llwglyd adeg y sgan a chawsant bowlen yn cynnwys 150g (pedwar paced a hanner) o greision i’w bwyta ar ddiwedd yr astudiaeth; cawsant wybod bod faint o greision y gwnaethant eu bwyta wedi cael ei fesur wedyn.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddulliau sganio MRI i ganfod gweithgaredd ymennydd y cyfranogwyr tra oeddent yn cael gweld lluniau o bethau tŷ, a bwyd a oedd yn amrywio o ran pa mor ddeniadol ydoedd ac o ran faint o galorïau oedd ynddo. Roedd y canlyniadau’n dangos bod ymatebion i fwyd yn rhan nucleus accumbens ymennydd y cyfranogwyr yn rhagweld faint o greision y byddent yn eu bwyta ar ôl y sgan. Fodd bynnag, nid oedd cysylltiad rhwng faint o greision y gwnaeth cyfranogwyr eu bwyta a’u tystiolaeth eu hunain pa mor llwglyd oeddent ac i ba raddau roeddent yn hoffi ac eisiau’r bwydydd.
Gofynnir i aelodau'r cyhoedd sydd eisiau mwy o wybodaeth am astudiaethau hyfforddi'r ymennydd yn y dyfodol anfon e-bost at: snackbuster@gmail.com.
Cyllidwyd yr astudiaeth hon gan Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru.
Beth mae’r astudiaeth hon yn ei ddangos:
• Mae ymatebion yr ymennydd i ddelweddau o fwyd yn amrywio’n sylweddol rhwng unigolion.
• Mae ymatebion yr ymennydd i ddelweddau o fwyd yn darogan faint o greision y bydd unigolion yn eu bwyta, yn hytrach na theimladau ymwybodol o fod eisiau bwyd neu awydd i fwyta.
• Dywedodd unigolion bod lefelau hunanreolaeth yn dylanwadu ar p’un a yw’r ymateb hwn o’r ymennydd yn gysylltiedig â BMI uwch neu is.
Beth NAD yw’r astudiaeth hon yn ei ddangos:
• Bod ymatebion yr ymennydd i ddelweddau o fwyd yn achosi gorfwyta.
• Bod y cysylltiadau a nodwyd yma yn wir yn achos pawb – dim ond merched ifanc iach gafodd eu cynnwys yn yr arbrawf.
• P’un a yw ymateb ein hymennydd a lefelau hunanreolaeth yn rhywbeth rydym yn ei ddysgu neu a ydyw’n reddfol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2012