Bydd morwellt yn elwa o'r newid byd-eang
Dengys ymchwilwyr y bydd morwellt yn elwa o'r cynnydd yn y tymheredd a CO2 yn y cefnforoedd oherwydd bydd eu gallu i gaffael nitrogen yn cynyddu, heb gyfyngu ar eu twf.
“Yn yr astudiaeth hon, dangoswn fod cynhesu'r cefnforoedd yn cynyddu'r galw am nitrogen gan forwellt a geir yn fyd-eang, Z. marina, ac y gellir diwallu’r galw hwnnw trwy gymryd mwy a mwy o nitrogen organig”, ebe Ana Alexandre, ecolegydd morwellt o Ganolfan y Gwyddorau Morol (CCMAR) a fu'n arwain yr ymchwil.
Deilliodd yr astudiaeth a gyhoeddwyd bellach yn y cyfnodolyn pwysig Functional Ecology o'r cydweithio a fu rhwng gwyddonwyr CCMAR a Phrifysgol Bangor ac mae'n cynnwys casgliadau perthnasol ynglŷn ag effeithiau'r newid byd-eang, ac yn enwedig cynhesu'r cefnforoedd, ar organeb forol. Bu'r timau'n defnyddio dull arloesol a oedd yn cyfuno arsylwadau maes ar gyfraddau caffael nitrogen y morwellt mewn tri safle ar hyd ei ystod lledredol (Gwlad yr Iâ, y Deyrnas Unedig a Phortiwgal) ag ymatebion y rhywogaeth lle mae caffael yn y cwestiwn i newidiadau mewn tymheredd a welwyd wrth arbrofi yn y labordy.
“Fel rheol mae'n well gan forwellt nitrogen anorganig, amoniwm fel arfer, ond ni wyddem sut y byddai'r dewis hwnnw'n newid yn ôl y tymheredd”, eglura Ana Alexandre. Ychwanega'r awdur “Y rhesymeg y tu ôl i’r newid hwnnw oedd bod disgwyl i gyfradd adfywio nitrogen anorganig trwy brosesau microbaidd fod yn uwch mewn amgylcheddau cynhesach tra bo disgwyl y byddai llai o nitrogen organig ar gael”.
Yn ôl Paul Hill o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, mae’r canlyniadau sydd wedi'u cyhoeddi “yn nodi bod cynhesu'n cynyddu cyfanswm caffaeliad nitrogen y morwellt, yn ogystal â chyfraniad cymharol nitrogen organig at gyfanswm caffaeliad nitrogen y planhigyn. Oherwydd bod cyfanswm y nitrogen organig y bydd microbau'n ei gymryd hefyd yn cynyddu gyda'r tymheredd, mae'n bosib y bydd cynhesu'n cynyddu'r gystadleuaeth am y ffynhonnell hon o nitrogen rhwng y morwellt a'i chymunedau o ficrobau”.
Mae morwellt yn chwarae rhan allweddol wrth ail-gylchredeg maetholion yn ecosystemau'r arfordir. Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod cynhesu'r cefnforoedd yn cynyddu gallu morwellt i ddal nitrogen, gan gyfrannu at gynnal ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth, a chynyddu'r potensial i ddal carbon.
Dyma'r erthygl yn llawn: https://besjournals.onlinelibrary.wiley.com/doi/epdf/10.1111/1365-2435.13576
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2020