Bydd seren ‘No Offence’, Joanna Scanlan, yn dod adref i Pontio i hyrwyddo ei ffilm indie newydd, ‘Pin Cushion’
Mae’n bleser gan staff Pontio groesawu’r actores a’r sgriptwraig adnabyddus, Joanne Scanlan (The Thick of It, Getting On, No Offence) i’r Sinema ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb yn dilyn dangosiad o’i ffilm newydd, PIN CUSHION gan y cyfarwyddwr newydd, Deborah Haywood, ddydd Sadwrn 15 Medi am 8.15pm.
Dywedodd Joanne bod gweithio ar PIN CUSHION gyda Deborah wedi bod yn un o “uchafbwyntiau fy ngyrfa hyd yma. Ma’ hi’n wych!” Ffilm dylwyth teg dywyll sydd wedi ei gosod yn Swydd Derby yw PIN CUSHION, sy’n adrodd hanes Lyn (Joanna Scanlan) a Iona (Lily Newmark), mam a merch sy’n symud i dref newydd i ddechrau bywyd newydd. Mae gan y ddwy berthynas agos iawn â’i gilydd ac maent yn benderfynol o wneud y gorau ohoni, ond mae realiti llym bwlio yn yr ysgol uwchradd yn effeithio eu perthynas. Wrth i’r ddwy geisio amddiffyn ei gilydd, mae eu byd cyfforddus yn dechrau datgymalu.
Mae Joanna yn actores adnabyddus ar y sgrin fach ac wedi ysgrifennu a pherfformio mewn comedïau megis Getting On, No Offence a The Thick of It. Mae hi hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin fawr ac wedi ymddangos mewn ffilmiau fel ‘Girl with a Pearl Earring’, ‘Bridget Jones’s Baby’ a gyda Ralph Fiennes yn ‘biopic’ Charles Dickens, ‘The Invisible Woman’.
Meddai Emyr Glyn Williams, Cydlynydd Sinema Pontio: “Mae gwreiddiau Joanna yma yng ngogledd Cymru. Cafodd ei magu yn Nyffryn Clwyd cyn symud i Fangor dri deg mlynedd yn ôl, pan gofrestrodd ei rhieni fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor – ei thad i astudio Celfyddyd Gain a’i mam i astudio Hanes. Mae hi wedi byw ym Mangor ar wahanol gyfnodau yn ei bywyd ac mae’r rhan fwyaf o’i theulu yn byw yn Sir Fôn – felly mae hi wir yn braf i ni ei chael hi’n bresenol yn ei ‘chartref’ i fwynhau dangosiad o’i ffilm newydd.”
Bydd Joanne yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb yn dilyn y ffilm, ac fel un sy’n gefnogwr brwd o waith y BFI, Reclaim the Frame, Birds Eye View a Cinema for All ar sicrhau fod mynd i’r sinema yn brofiad hwyliog a chroesawgar i bawb, yn wneuthurwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, dyma sesiwn na ddylid ei cholli.
Mae’r digwyddiad yn rhan o’r croeso i fyfyrwyr newydd a bydd tocynnau ar gael am gynnig arbennig o 2 am 1 i bawb. Archebwch nawr rhag cael eich siomi.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2018