Byddwch Fentrus yn lansio Cronfa Ddechrau Newydd
Weithiau cyllid yw’r unig beth sy’n rhwystro datblygiad syniad ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gyda hyn mewn cof, mae’r Project Byddwch Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi datblygu cynllun sy'n gwbl newydd i Brifysgol Bangor. Hwn yw'r Gronfa Ddechrau, lle gall myfyrwyr unigol, grwpiau neu gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr gyflwyno syniad busnes. Yna, caiff y rhai a roddir ar y rhestr fer gyfle i gyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid. Trwy’r cynllun hwn, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, gall myfyrwyr ennill hyd at £150 o arian i gymryd y camau cyntaf i fyd busnes.
Yn y rownd gyntaf ddechrau Tachwedd cafwyd ystod gyffrous o syniadau newydd. Fe wnaeth panel o bum beirniad ystyried y syniadau ar y rhestr fer yn erbyn meini prawf ymarferoldeb ac arloesi. Dyfarnwyd y wobr gyntaf o £150 i Thomas Potter, myfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, am syniad arloesol yn ymwneud â chadw gwenyn trwy gysylltu â’r gymuned leol. Yn gydradd ail cafwyd cynigion gan Streetlaw, Bangor Special Olympics a Recipe in a Jar ac yn gydradd drydydd daeth BUBES (Bangor University Business & Enterprise Society), OTC a New Music Concert. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch i’r holl gyfranwyr.
“Mae’n rhyfeddol gweld cynlluniau myfyrwyr yn ystod gwahanol gamau eu datblygiad, o ddechrau syniad arloesol i gynllun busnes cyflawn. Dwi’n teimlo ei bod yn fraint gwneud cyfraniad bychan at y twf hwnnw.” Ffion Llwyd-Jones, FLJ Media
Rydym ni yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cael ein synnu’n gyson gan nifer y syniadau busnes arloesol rydym yn dod ar eu traws gan fyfyrwyr o bob disgyblaeth. Cynhyrchir rhai ar gyfer cystadlaethau a digwyddiadau arbennig, tra bo eraill yn syniadau sydd wedi bod ar y gweill mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ers blynyddoedd. Mae’r cynllun newydd hwn yn ein galluogi i hyrwyddo’r ffrwd greadigol hon a'u galluogi i fynd â'u cynlluniau ymlaen i'r cam nesaf. Bydd myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn ennill pwyntiau ychwanegol tuag at Gwobr Cyflogadwyedd Bangor. Bydd cyfle arall i fyfyrwyr gyflwyno eu syniadau yn semester dau.
Myfyrwyr a ddaeth i’r Rownd Derfynnol:
Cadw Gwenynod - Thomas Potter, Ysgol Gwyddorau Eigion
Streelaw – Iwan Emlyn Jones, Joshua Simpson, Thomas Pugh Jones, Ysgol y Gyfraith
Bangor Special Olympics - Lucy Bryning , Stacey Hunter, Ceri Christian Jones – Ysgol Seicoleg
Claire Massey , Niamh-Elizabeth Reilly – Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Recipe in a Jar – Natalie Pluck, Lisa Marie Oliver – Ysgol Seicoleg, Adam Sharpley, Ysgol Gwyddorau Biolegol
Bangor University Officer Training Corp (OTC) - Lindsay Hurst , Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Harry McCarthy, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
Bangor University Business & Enterprise Society (BUBES) – Samantha Austin & Matthew Jackson, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
New Music Concert – Allen Ince, Robert Thompson – Ysgol Cerddoriaeth
Byddai’r tîm Byddwch Fentrus yn falch o nawdd neu roddion gan unrhyw un sydd eisiau cefnogi’r fenter myfyrwyr – cysylltwch â Michelle Hamlet os gwelwch yn dda: B-enterprising@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2011