Byth yn rhy hwyr i ddysgu!
Bydd aelod staff o Lyfrgell Prifysgol Bangor yn ymuno â’r myfyrwyr yn nathliadau’r wythnos raddio, ar ôl cwblhau cwrs ôl-radd rhan-amser gyda’r Ysgol Dysgu Gydol Oes.
Bydd Shân Robinson, 47, o Dregarth, yn graddio gyda MA mewn Astudiaethau Menywod yr wythnos hon.
“Graddio yw’r teimlad gorau yn y byd! Mae’n braf cael y cyfle i ddathlu canlyniad perffaith ar ôl blynyddoedd o waith caled. Yn well fyth, cael rhannu’r profiad gyda’r teulu, sydd wedi fy nghefnogi dros y blynyddoedd, gan aberthu hefyd heb fawr o gwyno.
“Rwy’n hogan o Dregarth ger Bethesda, mam i ddwy o ferched, sydd wedi gweithio yn Llyfrgell y Brifysgol ers bron i ddeng mlynedd ar hugain. Un o’r rhesymau dros ddechrau astudio ar gyfer gradd oedd gweithio efo myfyrwyr bob dydd a sylwi bod gen i gymaint, os nad mwy, i’w gynnig na’r rhai oedd yn dod trwy ddrws y llyfrgell.
“Roedd yn brofiad heriol iawn parhau i weithio wrth astudio. Rwy’n meddwl bod merched yn aml yn teimlo’r straen o gydbwyso bywyd cartref a theulu, a bywyd byd gwaith, ac yn aml yn teimlo euogrwydd mawr. Drwy ychwanegu pwysedd astudio hefyd, mae’r broses yn edrych, ar y cychwyn, fel un anobeithiol. Ond yn wir, rwyf wedi mwynhau pob eiliad, wedi gwneud ffrindiau da, wedi ehangu fy mhrofiad ac, wrth gwrs, fy ngwybodaeth. Ar ben hynny, credaf fod y profiad o weld eu mam yn blodeuo trwy ddysgu wedi bod yn un hynod o bositif i’m plant.
“Cefais y profiad o gyflwyno papurau mewn cynadleddau. Yn 2011, cyflwynais yng Nghynhadledd Menywod Cymru; yn 2012, cyflwynais yng Nghynhadledd NAASWCH (North American Association for the Study of Welsh Culture and History) ac yng Nghynhadledd Adran Gerdd – Y Ferch Greadigol. Wrth gwrs, mae’n fraint cael gwahoddiad i gyflwyno papur mewn cynhadledd, ond mae hefyd yn sialens, yn enwedig i un ddibrofiad. Mae’n rhaid dweud bod pob cefnogaeth bosib wedi ei chynnig i mi yn ystod pob cyfnod. Mae’n rhaid diolch hefyd i’r gynulleidfa am eu hymateb positif ac amyneddgar. Yn dilyn fy nghyflwyniad yng Nghynhadledd Menywod Cymru, cefais wahoddiad i ymuno â’r pwyllgor.
“Uchafbwynt fy nghyfnod ar y cwrs oedd gweld copi o’m gwaith ymchwil wedi ei rwymo ac yn barod i’w gyflwyno.
“O’r cychwyn, pwrpas gwneud y cwrs oedd lledu gorwelion ac ehangu fy ngwybodaeth, yn hynny rwy’n teimlo fy mod i wedi llwyddo. O ran gwaith, er mai rhesymau personol ac nid gyrfaol a’m gyrrodd, mae’n wir dweud fy mod i wedi ennill sgiliau a magu hyder sydd yn siŵr o fod o fudd i fy ngwaith pob dydd.”
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013