Bywyd i'r Cherokee heddiw a hanes y Llwybr Dagrau
Mewn cyfres o dair rhaglen ar S4C, bydd yr Athro Jerry Hunter yn teithio i America i olrhain hanes y Cymro Evan Jones ac i ddysgu mwy am genedl y Cherokee heddiw.
Ym 1838 fe gafodd y genedl gyfan ei gyrru o'u cartrefi yn y dwyrain i wneud lle i'r dyn gwyn, ac roedd y cenhadwr Evan Jones yn dyst i'r cyfan.
"Enw'r Cherokee ar y daith hon oedd y Llwybr Dagrau ac mae'n un o'r penodau tywyllaf yn hanes America – glanhau ethnig rydyn ni'n galw hyn heddiw," meddai'r Athro Jerry Hunter, sy'n wreiddiol o Cincinnati, Ohio ond bellach yn byw yng Nghymru ac yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.
Yn ystod y gyfres, bydd Jerry Hunter yn olrhain hanes Evan Jones o'i gartre yn LLaneigon ger y ffin â LLoegr, i Philadelphia, Washington a mynyddoedd Gogledd Carolina. Yno sefydlodd Evan Jones fel cenhadwr a dysgu'r iaith frodorol er mwyn hwyluso'i waith. Ond wrth ddysgu Cherokee, dechreuodd ymhel â gwleidyddiaeth y wlad a phan orfodwyd y Cherokee i gerdded 900 milltir i gartre newydd yn y gorllewin, aeth Evan Jones gyda nhw hefyd.
"Peth braf oedd cyfarfod â Cherokee-aid heddiw sy'n dal i siarad am Evan Jones. Fo oedd y cyntaf i gyhoeddi papur newydd i'r Cherokee yn eu hiaith eu hunain ar ôl iddyn gyrraedd y gorllewin, ac mae'r eglwysi a sefydlwyd ganddo yn bodoli hyd heddiw"
Erbyn hyn, er bod 300,000 o bobl wedi'u cofrestru yn swyddogol fel Cherokee dim ond rhyw 10,000 sy'n medru siarad yr iaith. Bydd Jerry yn ymweld â'r ysgolion a'r colegau sy'n ceisio adfywio'r iaith, y gwasanaeth radio Cherokee, ac rhai o'r eglwysi lle mae'r iaith yn cael ei defnyddio o hyd.
Bydd yn dyst hefyd i rai o ddawnsiau a defodau traddodiadol y Cherokee sydd wedi parhau hyd heddiw, ochr yn ochr â'r Gristnogaeth a gyflwynwyd gan genhadon fel Evan Jones.
"Ar ddechrau ei yrfa fel cenhadwr roedd o'n reit chwyrn yn erbyn 'arferion paganaidd' fel hyn" meddai Jerry Hunter. "Ond dros amser, daeth i dderbyn mwy a mwy o draddodiadau'r Cherokee ac yn 1865 ar ôl oes o wasanaeth i'r genedl, cafodd ei dderbyn yn aelod llawn o'r Cherokee."
Bydd y rhaglen gyntaf yn dilyn blynyddoedd cyntaf Evan Jones ymhlith y Cherokee; bydd yr ail yn canolbwyntio ar drasiedi'r LLwybr Dagrau; ac yn y drydedd cawn hanes y Rhyfel Cartre pan rwygwyd cenedl y Cherokee unwaith eto - ac aeth Evan Jones i ryfel fel caplan hefo catrawd o Cherokees.
"Roedd o yn ei saith degau ar y pryd! Fo mae'n debyg oedd y caplan hynaf erioed i wasanaethu hefo byddin yr Unol Daleithiau - dwi'n rhyfeddu at egni'r dyn!"
Evan Jones a'r Cherokee
Nos Fercher 23 Mawrth 9.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016