Bywyd Normal
Mae llyfr newydd wedi ei gyhoeddi sy’n rhoi cip ar hanes y Coleg Normal, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Bangor, drwy lygaid ei myfyrwyr.
Mae Dr Tudor Ellis, cyn-ddarlithydd yn y Coleg Normal, wedi ysgrifennu’r llyfr sydd newydd ei gyhoeddi gan wasg y Bwthyn, ac wedi’i lansio’r wythnos hon (8.7.11).
Cefndir
Bu’r Coleg Normal yn drwm ei ddylanwad ar addysg yng Nghymru am 138 o flynyddoedd, o’i sefydlu yn 1858 hyd nes iddo integreiddio gyda Prifysgol Bangor (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ar y pryd) yn 1996. Magodd y Normal genedlaethau o athrawon, a rhoddodd hyfforddiant i do o bobl ifanc a aeth ymlaen i wneud eu marc yn y cyfryngau, mewn busnes, ac mewn gwaith yn ymwneud â’r amgylchedd. Yn hyn i gyd gwnaeth gyfraniad arbennig i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae’r llyfr hwn yn rhoi cip ar hanes y Normal drwy lygaid ei fyfyrwyr. Sut brofiad oedd bod yn Normalydd? Beth oedd y profiadau mwyaf dylanwadol ar fyfyrwyr y tu mewn a’r tu allan i furiau’r sefydliad? Beth oedd eu diddordebau go iawn? Beth oedd y sgandalau?
Mae Tudor Ellis wedi hel tystiolaeth o bob cwr ac wedi cyfweld nifer o gyn-fyfyrwyr er mwyn cael mynd dan wyneb eu bywyd dyddiol. Y dystiolaeth hon sy’n gwneud y llyfr yn arbennig ac yn rhoi min ar yr hanes. Wrth roi darnau’r jig-so at ei gilydd, daw nifer o straeon i’r golwg sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf.
Mae’r stori a adroddir gan yr awdur yn ein goleuo ynghylch sut le oedd y Coleg Normal ond mae hefyd yn ddrych o gyfnod arbennig yn hanes ehangach addysg yng Nghymru ac yn gyfraniad pwysig at ein dealltwriaeth o’r hanes hwnnw.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2011