Cadeiryddiaeth Pwyllgor BMA dylanwadol i Fangor
Mae’r Athro Michael Rees, Athro mewn Gwyddorau Fasgwlaidd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, wedi cael ei ethol i swydd allweddol o fewn y BMA (Cymdeithas Feddygol Prydain). Mae wedi’i ethol am dymor ychwanegol, yn Gadeirydd ar Bwyllgor Staff Meddygol Academaidd y BMA, ar gyfer 20011-12.
Oherwydd pwysau gwaith cynyddol ar y swydd bwysig hon, bydd yn cyd-gadeirio’r swydd â’r Athro Peter Dangerfield o Brifysgol Lerpwl.
“Rwy’n falch fod yr Athro Rees wedi’i ail-ethol i’r swydd bwysig hon,” meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes. “Mae’n cadarnhau ymddiriedaeth y BMA yng ngalluoedd a chyfraniad yr Athro Rees. Mae hefyd yn dangos bod gan brifysgolion fel Bangor gymaint i’w gynnig ag ysgolion meddygol prif-ffrwd y prifysgolion mawrion.”
“Rwyf wrth fy modd cael gwasanaethu fel Cadeirydd ar Bwyllgor Academaidd y BMA. Yn ogystal â chyfrannu at faterion y DU ac Ewropeaidd, mae’r apwyntiad hefyd yn caniatáu i mi fod yn llysgennad dros Fangor a’i chefnogaeth at y byd academaidd clinigol a fydd yn parhau i ffynnu yng ngogledd Cymru,” meddai’r Athro Rees.
Bydd yr Athro Rees yn parhau i gynrychioli buddiannau academyddion meddygol mewn prifysgolion ac ysbytai athrofaol ar draws Prydain yn eu hymwneud â’r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau. Mae’n ymwneud â rhoi cyngor ar faterion megis contractau a strwythurau gyrfa a sicrhau bod cyflogau academyddion meddygol yn parhau ar yr un graddfeydd â’u cydweithwyr meddygol o fewn y Gwasanaeth Iechyd. Mae hwn yn un o’r pwyllgorau pwysicaf o fewn y BMA.
Mae’r Athro Rees hefyd yn aelod o Bwyllgor Llywio’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCRH) ac yn cynrychioli’r proffesiwn meddygol ar bwyllgor Ymgynghorol Addysg Iechyd y DU yn ogystal â bod yn gynrychiolydd academyddion clinigol ar y Cyfnewid Strategol Cenedlaethol ar Addysg Iechyd (Health Education National Strategic Exchange) rhwng yr Adran Iechyd a’r Adran Busnes, Mentergarwch a Sgiliau.
Astudiaethau fasgwlaidd a delweddu yw meysydd diddordeb clinigol yr Athro Rees. O fewn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru, mae wedi cyfrannu tuag at adeiladu’r gwasanaethau ar gyfer trin clefyd y galon ac wedi sefydlu cyfleusterau MRI a meddygaeth niwclear newydd. Mae hefyd wedi mentora’r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer gwobrwyon NISCHR ac wedi cyfrannu at ddyrannu statws uned ymchwil biofeddygol i Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2011