Cael gwared ar PPI yn golygu costau llog uwch ar fenthyciadau anwarantedig
A ellir cyfiawnhau'r penderfyniad i wahardd gwerthu Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI) ar y cyd â benthyciadau anwarantedig? Erbyn hyn mae yswiriant gwarchod taliadau, neu PPI, yn wasanaeth ariannol a gaiff ei gysylltu â thaliadau mawrion gan y banciau, taliadau ffawdelw a dderbyniwyd gan lawer o gwsmeriaid banc a gormodedd o alwadau ffôn di-alw amdanynt. Nid yw'n fawr o syndod bod llawer o'r drafodaeth wedi canolbwyntio ar y swm o ymron i £14 biliwn o bunnoedd o iawndal a dalwyd yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf, ond mae effaith y penderfyniad yma ar gost benthyca anwarantedig hefyd yn arwyddocaol.
Mae astudiaeth ar y cyd rhwng Prifysgolion Bangor a Hull yn ymchwilio i hyn trwy ystyried a drosglwyddwyd cymhorthdal i fenthyciadau trwy PPI. Mae'r ymchwil gan John Ashton o Brifysgol Bangor a Robert Hudson o Brifysgol Hull yn dangos bod cwsmeriaid mewn gwirionedd yn awr yn talu cyfraddau llog uwch am fenthyca anwarantedig yn dilyn y newidiadau a gyflwynwyd yn 2010.
Cymharodd Dr Ashton o Ysgol Busnes Prifysgol Bangor y system flaenorol â phrynu cnau o fini-bar gwesty, ac esboniodd fod: "Cwsmeriaid yn dewis benthyciad yn gyffredinol ar sail cost ad-daliadau'r benthyciad, heb ystyried y costau PPI, yn union fel y byddai cwsmer gwesty'n dewis gwesty gydag ystafelloedd rhatach, gan wybod y byddai pris manion bethau o'r mini-bar yn artiffisial o uchel. Cododd problemau gyda PPI, oherwydd lle bo'r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn ymwybodol y gall manion o fini-bar gael eu gorbrisio, nid oedd dealltwriaeth eang ynglŷn â chostau gwasanaethau PPI. Roedd y diffyg hwn yng ngwybodaeth cwsmeriaid yn galluogi cwmnïau i godi premiwm PPI a defnyddio'r elw o werthu PPI i ostwng costau benthyca anwarantedig yn sylweddol cyn 2010."
Meddai Dr Ashton ymhellach: "Tra bo cwsmeriaid yn bendant wedi gordalu am PPI wrth fenthyca yn y gorffennol, gwnaeth hynny ostwng costau llog ar ddyled anwarantedig. Heb PPI bydd costau llog dyled anwarantedig yn uwch."
Ystyriodd yr archwiliad ddata gan Moneyfacts PLC ar gyfraddau llog am fenthyca anwarantedig a gynigiwyd gyda PPI neu hebddo am dri swm o fenthyca anwarantedig (£1,000, £5,000 a £10,000). Cofnodwyd y data yn fisol am bedair blynedd ar ddeg, o fis Ionawr 1998 hyd fis Rhagfyr 2011 ar gyfer 219 o gynhyrchion benthyca personol anwarantedig a gynigiwyd gan 104 o fanciau; rhoddodd hynny sampl cynhwysfawr ac amrywiol o fanciau'r DU sy'n cynnig benthyciadau anwarantedig. Cymerodd yr astudiaeth ystyriaeth o ddylanwad ffactorau eraill pwysig gan gynnwys taliadau adbryniant, ffioedd trefnu, cwsmeriaid oedd eisoes yn bod, y defnydd o ddebyd uniongyrchol, trefn y dosbarthiad ac uchafswm tymor y benthyciad. Mae’r astudiaeth yn cael ei chyhoeddi'r mis hwn yn y cyfnodolyn academaidd The International Journal of the Economics of Business.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2014