Caiff mwy o gemau eu chwarae ar Gaeau Chwarae Treborth diolch i gyn fyfyrwyr
Bydd gan glybiau chwaraeon myfyrwyr y Brifysgol well siawns o chwarae gemau pan fydd hi'n tywallt â glaw, diolch i beiriant 'Vertidrain' newydd. Mae'r peiriant, a dalwyd amdano'n gyfan gwbl gan gyfraniadau gan gyn fyfyrwyr Bangor, yn caniatáu i'r tirmyn sicrhau bod dŵr wyneb yn draenio'n gyflym o'r caeau chwarae i system ddraenio danddaearol ddofn a fydd yn cadw'r caeau'n ddigon sych i gael chwarae arnynt am gyfnodau hirach. Trwy gyfres o bigynnau sy'n ymdroelli, crëir tyllau draenio bychain ar wyneb y cae, gan greu system ddraenio naturiol.
Bydd y clybiau myfyrwyr yn chwarae dros 50 o gemau dros y flwyddyn yn amrywio o gemau traddodiadol fel rygbi a phêl-droed at rai mwy anarferol fel pêl-droed Gwyddelig a phêl-droed Americanaidd. Mae cadw'r caeau mewn cyflwr da ar gyfer chwarae gemau ar brynhawniau Mercher yn waith dros y flwyddyn gyfan i'r tirmyn, gan fod y clybiau nid yn unig eu hangen ar gyfer chwarae ond hefyd ar gyfer eu sesiynau ymarfer ddwywaith yr wythnos. I gynorthwyo gyda'r sesiynau ymarfer, mae'r clybiau hefyd yn cael budd o ddwy set o lifoleuadau symudol, a gyfrannwyd hefyd gan gyn fyfyrwyr y Brifysgol. Mae'r llifoleuo symudol yn caniatáu i wahanol gaeau cael eu defnyddio ar gyfer ymarfer, yn hytrach na dibynnu ar yr un cae sydd â llifoleuadau ar hyn o bryd ac sydd bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gemau gyda'r hwyr.
Dywedodd Cyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol Bangor, Richard Bennett: "Mae derbyn y ddau ddarn o offer fel rhoddion wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n gallu i gadw'r clybiau'n chwarae dros aeaf sydd hyd yma wedi dod â chymaint o law ac eira. Mae'r llifoleuadau wedi arwain at ostyngiad dramatig yn y draul ar y caeau a bydd y 'Vertidrain' yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn y tymor hir."
Dywedodd Llywydd Chwaraeon a Byw'n Iach Undeb Athletau'r Brifysgol, Emyr Bath: "Mae wedi bod yn frwydr ers blynyddoedd lawer i gwblhau ein gemau oherwydd maint y glaw ond nawr bod gennym y peiriant 'Vertidrain' ni fydd raid i ni ohirio yn agos at yr un nifer o gemau am y bydd hi'n bosib chwarae ar y caeau am lawer yn hirach."
Dywedodd Prif Dirmon Prifysgol Bangor Roger Hilton: "Mae'r peiriant 'Vertidrain' yn golygu gallwn gymryd mantais lawn ar ein system ddraenio a sicrhau bod gymaint o gemau â phosib a drefnwyd yn cael eu chwarae."
Dywedodd Phil Nelson: "Fel y rhan fwyaf o Alumni Bangor, rwyf yn falch iawn o'n Prifysgol, ac mae'n rhyfeddol gweld cymaint o gyn myfyrwyr sydd eisiau parhau â'u cysylltiad a’u hymroddiad (ariannol) i'r brifysgol a'r gymuned leol.
Mae gen i atgofion melys am chwarae rygbi yn Nhreborth yn ystod fy nyddiau yma fel myfyriwr, a byddaf yn mynd yno'n aml i redeg, cerdded a gwylio gemau'n achlysurol. Un o asedau rhagorol unigryw'r brifysgol yw ei chynefin, o fynyddoedd ysblennydd Eryri at draethau dilychwin Ynys Môn. Ble arall gewch chi chwarae gyda golygfeydd mor drawiadol â'r ddwy bont eiconig a dyfroedd troellog y Fenai?
Bellach yn sgìl cyfraniadau’r alumni i helpu draenio a goleuo'r caeau, bydd timau o'r diwedd yn gallu chwarae ar gaeau o ansawdd sy'n deilwng o ansawdd yr olygfa."
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2013