CALIN - Lansio rhwydwaith arloesi gwyddor bywyd newydd i fusnesau Cymru ac Iwerddon
Mae Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn falch o gyfrannu at rwydwaith gwyddor bywyd sydd newydd ei lansio.
Cymeradwywyd y rhwydwaith gwyddor bywyd Cymru-Iwerddon €11.96M a ariannwyd gan yr UE gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford.
Amcan y rhaglen gydweithredol, Celtic Advanced Life Science Innovation Network (CALIN) yw cysylltu busnesau bach a chanolig gyda Sefydliadau Addysg Uwch sy'n arweinwyr rhyngwladol yn cynnwys Prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe yng Nghymru, a Choleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway a Sefydliad Cenedlaethol Tyndall, Coleg Prifysgol Cork yn Iwerddon.
Gan ganolbwyntio ar feddygaeth fanwl (diagnosteg, dyfeisiau a therapiwtig), meddygaeth aildyfu, a biogydnawsedd a gwerthuso diogelwch, bydd CALIN yn gweithio'n agos gyda busnesau i gefnogi uwch ddatblygu cynnyrch gwyddor bywyd trwy ymchwil a datblygu cydweithredol.
Mae CALIN yn cynnig mynediad agored at bartneriaeth ryngwladol strategol unigryw rhwng chwe phrifysgol o fri byd-eang yng Nghymru ac Iwerddon, ac arweinwyr gofal iechyd rhyngwladol sef Unilever a GE Healthcare. Trwy CALIN, bydd busnesau yng Nghymru ac Iwerddon yn gallu mynd at ganolfan wybodaeth bwerus a seilwaith technolegol gan alluogi arloesi cyflym, a mynediad at rwydwaith o fudd-ddeiliaid allweddol yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi, llwybr i'r farchnad a defnyddwyr darparwyr gofal iechyd.
Bwriad CALIN yw annog twf cynaliadwy deallus mewn Uwch Wyddorau Bywyd yng Nghymru ac Iwerddon trwy wneud nifer fawr o brojectau ymchwil a datblygu cydweithredol, a chynhyrchu swyddi newydd a denu buddsoddwyr i'r ardaloedd trawsffiniol drwyddynt. Bydd yr holl weithgareddau ymchwil a datblygu yn cynnwys partneriaeth gydweithredol rhwng busnesau bach a chanolig a phrifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon dros gyfnod o 1-3 blynedd yn dibynnu ar natur y rhaglen ddatblygu.
Bydd y rhwydwaith yn cynnig ymchwil a datblygu, datblygiad technolegol a chefnogaeth arloesi i fusnesau bach a chanolig, a fydd yn gyrru cystadleurwydd rhyngwladol y ddau ranbarth. Gyda'i gilydd, bydd y canolfannau rhagoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol yn meithrin partneriaethau ymchwil a diwydiannol trawsffiniol, gan adeiladu llwyfan rhagoriaeth i ryngweithio ehangach yn Ewrop a thu hwnt.
Meddai Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford: "Mae gwyddor bywyd yn sector allweddol yng Nghymru ac Iwerddon a bydd y cyllid hwn yn cefnogi gwaith ymchwil a datblygu, sy'n hanfodol i greu cynhyrchion, technoleg a swyddi newydd.
"Mae'n newyddion gwych ar gyfer mwy na 240 o fusnesau bach a chanolig ac rwyf wrth fy modd y bydd arbenigedd y prifysgolion sy'n cymryd rhan yn cael ei rannu a'i ddefnyddio yn y ddwy wlad.
Meddai Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Iwerddon, Paschal Donohoe: "Mae'r rhaglen Cymru-Iwerddon yn dangos sut y gall cyllid yr UE gyfrannu at gydweithio trawsffiniol llwyddiannus - ar draws ein ffin forol â'r DU yn yr achos hwn. Mae project CALIN yn enghraifft ardderchog o sut mae'n cefnogi ymchwil a datblygu mewn prifysgolion er lles busnesau a bob maint, gan arwain at swyddi newydd a buddsoddi pellach mewn technolegau newydd.
"Dengys y cyhoeddiad hwn bod cyllid o dan y rhaglen Cymru-Iwerddon yn mynd rhagddo ac y gall buddiolwyr y rhaglen gynllunio'n hyderus at y dyfodol. Mae Llywodraeth Iwerddon yn gryf o blaid y rhaglen ac wedi ymrwymo i'w gweithredu'n llwyddiannus."
Meddai arweinydd diagnosteg CALIN ym Mhrifysgol Bangor, Dr Chris Gwenin: "Mae hwn yn gyfle gwych i ni ym Mangor ymestyn ein harbenigedd ym maes diagnosteg feddygol a gweithio'n agosach nid yn unig yng Nghymru ond hefyd gyda’n cyd ardal Geltaidd yn Iwerddon." Mae Dr Leigh Jones, sy'n gemegydd anorganig fel arfer ym Mangor, yn edrych ymlaen at ehangu ei orwelion trwy gefnogi'r project yn weithredol. Dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen at ddod â fy syniadau fy hun i'r bennod ymchwil newydd a chyffrous hon."
Dywedodd Dr Stephen Barnwell, Rheoli Arloesi Agored Ewrop, Unilever: "Bydd CALIN yn rhoi cyfle unigryw i fusnesau weithio gyda sefydliadau yng Nghymru ac Iwerddon hefyd. Bydd y gronfa hon o arbenigedd o'r radd flaenaf yn hybu cyfleoedd busnes cyffrous trwy alluogi ymgysylltu â rhwydwaith eang o wybodaeth gan gynnig arbenigedd ymchwil ac arloesi ar y cyd. Mae hon yn fenter gyffrous, sy'n addo buddion mawr i sectorau masnachol gwyddor bywyd ac iechyd yn y ddwy wlad."
Mae CALIN yn gobeithio ymgysylltu â dros 240 o fentrau ar hyd a lled Cymru ac Iwerddon a'u cynorthwyo. Dylai busnesau bach a chanolig sydd â diddordeb gysylltu â Dr Chris Gwenin c.d.gwenin@bangor.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2016