Camelot Arthur – ydy’r chwilio wedi dod i ben o’r diwedd?
Mae'r ymdrech i ddod o hyd i Camelot y Brenin Arthur wedi peri penbleth ac wedi ennyn chwilfrydedd ysgolheigion a selogion ers mil o flynyddoedd. Bellach, mae'n bosib bod y chwilio ar ben o’r diwedd.
Mae Peter Field, Athro Emeritws mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, wedi darganfod yr hyn y mae'n credu yw safle Camelot Arthur. Mewn darganfyddiad a fydd o ddiddordeb i archeolegwyr, haneswyr, ysgolheigion llenyddol, a selogion Arthuraidd o gwmpas y byd, bydd yr Athro Field yn datgelu safle Camelot yn ystod ei ddarlith Shankland, ‘Searching for Camelot', ym Mhrifysgol Bangor ar 14 Rhagfyr.
Mae'r Athro Field yn arbenigwr byd-enwog ar lenyddiaeth Arthuraidd: ‘Os oedd yna Frenin Arthur go iawn, byddai wedi byw tua AD500, er bod y cyfeiriad cyntaf ato yn Camelot i’w weld mewn cerdd Ffrangeg o ranbarth Champagne yn Ffrainc o 1180.
Nid oes dim sôn am Camelot yn y cyfnod rhwng y dyddiadau hynny, a elwir yn Oesoedd Tywyll yn Saesneg , pan oedd y wlad yn rhyfela, a fawr ddim wedi ei gofnodi. Yn y bwlch hwn, roedd pobl yn trosglwyddo gwybodaeth, a llawer ohoni’n mynd ar goll wrth ei throsglwyddo. Gallai pobl fod wedi creu ffeithiau dychmygol neu ddim ond wedi cymysgu gwybodaeth hysbys.
Gyda'r wybodaeth orau sydd ar gael, a’r dyfaliadau gorau y gellid eu gwneud, y gred ers talwm yw y gallai Camelot fod wedi ei leoli mewn lleoedd fel Caerllion, yn Ne Cymru, Winchester neu Gastell Cadbury.”
Ond mae dod o hyd i wir safle Camelot wedi bod yn dasg rwystredig ac anodd. Mae’r pwnc wedi bod yn destun diddordeb ysol i’r Athro Field, a ddaeth i Brifysgol Bangor yn 1964 ac a ymddeolodd yn 2004, ac mae wedi treulio’r 18 mis diwethaf yn ymchwilio i safle Camelot.
“Rwyf wrth fy modd yn gwneud hyn," meddai, "ond lwc mul oedd hi fy mod i’n edrych ar rai mapiau, ac yn sydyn iawn dyma’r holl ddarnau’n disgyn i’w lle”. “Rwy'n credu efallai fy mod wedi datrys dirgelwch 1400 oed.!
Yn ôl yr Athro Raluca Radulescu, sy’n Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor ac yn olygydd y Journal of the International Arthurian Society, "mae disgwyl mawr am ddarganfyddiadau diweddaraf yr Athro PJC Field ynghylch safle’r Camelot Arthuraidd gan aelodau o'r International Arthurian Society. Mae ei waith yn parhau traddodiad Prifysgol Bangor mewn astudiaethau Arthuraidd a Cheltaidd ers sefydlu’r brifysgol yn 1884.
Am y tro, mae’r Athro Field yw cadw'r lleoliad yn gyfrinach: “Bydd yn rhaid i bobl ddod i’r ddarlith i ddarganfod yn union lle mae Camelot, a chredaf y byddant yn synnu!"
Yng ngeiriau Nancy Edwards, Athro Archaeoleg yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor, "Roedd Arthur yn ffigwr arwrol mytholegol hynod bwysig ym Mhrydain yn y cyfnod canoloesol cynnar. Mae chwedlau amdano hefyd wedi gadael eu hôl ar dirwedd archeolegol Cymru. Felly, yr wyf yn edrych ymlaen at ddarlith yr Athro Field ar leoliad Camelot Arthur ".
Mae'r cyhoeddiad am ddarganfyddiad yr Athro Field yn amserol, gan ei fod yn digwydd wrth i Gymru ymbaratoi i ddathlu 'Blwyddyn Chwedlau'. Yn ystod 2017, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu ei diwylliant a'i threftadaeth gyfoethog.
Bydd darganfyddiad yr Athro Field yn cael ei ddatgelu yn Narlith Shankland olaf y flwyddyn hon, a gynhelir yng Nghanolfan newydd Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr, ym Mhrifysgol Bangor.
Pryd? 5pm, Dydd Mercher 14 Rhagfyr, 2016
Ble? Ystafell Teras 3, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, LL57 2DG
I gael rhagor o fanylion am y digwyddiad ac am waith y Ganolfan, ewch i http://colclough.bangor.ac.uk/
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2016