‘Can the UN trump Trump?’: Cadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig y Deyrnas Unedig (UNA-UK) yn rhoi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor
Yng nghyd-destun byd sy'n gynyddol hollti'n garfanau gelyniaethus, ydi'r Cenhedloedd Unedig yn fwy neu'n llai pwysig? Pa mor hanfodol yw amlochroldeb wrth wynebu materion cyfoes byd-eang? Mewn darlith gyhoeddus ddadlennol, gaiff ei thraddodi ddydd Gwener, 8 Rhagfyr am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, bydd yr Arglwydd Wood, Cadeirydd Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (y Deyrnas Unedig), yn trafod perthnasedd y Cenhedloedd Unedig ar adeg pan fo'r sefydliad yn cael ei ddilorni a'i gamddeall yn gynyddol. Teitl y ddarlith yw 'Can the UN trump Trump?', ac i ddilyn ceir sesiwn holi ac ateb. Cyflwynir y siaradwr gan yr Is-Ganghellor, Yr Athro John Hughes.
Mae'r Arglwydd Wood yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Rhydychen. Arferai fod yn Uwch Gynghorwr Arbennig ar bolisi tramor i'r Prif Weinidog, Gordon Brown, gan ymdrin ag Ewrop, yr Unol Daleithiau, y Dwyrain Canol a chysylltiadau â sefydliadau rhyngwladol. Fel academydd mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar economi wleidyddol a gwleidyddiaeth Ewrop.
Mae’r ddarlith am ddim ac mae croeso i bawb. Noddir y ddarlith ar y cyd gan Brifysgol Bangor a changen Menai Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â public.lectures@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017