Canlyniadau cynnar ymchwil yn datgelu barn pobl ifanc am iechyd meddwl
Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc yng Nghymru yn cyrraedd y safonau yn ôl canfyddiadau ymchwil gynnar (17 Tachwedd).
Adroddwyd ar y canfyddiadau yn ystod lansiad Arsyllfa@Bangor, cangen gogledd Cymru Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi ei leoli yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
Project ar y cyd yw’r Arsyllfa, gyda phartneriaid rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Mae’n darparu fforwm ar gyfer ymchwil, trafodaeth, addysg a chyfnewid gwybodaeth am hawliau dynol plant a phobl ifanc, gan weithio tuag at wireddu hawliau dynol trwy bolisi, ymarfer, eiriolaeth a diwygio’r gyfraith. Bellach, gyda swyddfeydd ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor, bydd yr Arsyllfa yn dod â’r gorau o ran ymchwil, theori, gwybodaeth ymarferol a phrofiad at ei gilydd er mwyn dylanwadu ar bolisi cyhoeddus, diwygio’r gyfraith, hyfforddiant proffesiynol ac ymarfer.
Mae’r ymchwil ddiweddaraf, ar y cyd ag elusennau iechyd meddwl Hafal, y Sefydliad Iechyd Meddwl, Bipolar UK, a Diverse Cymru, yn gweithio gydag Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc i ganfod sut mae modd gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae pobl sydd â phrofiad o CAMHS, fel gofalwyr neu ddefnyddwyr gwasanaeth, wedi bod yn rhannu eu barn drwy arolwg ar-lein. Mae plant a phobl ifanc o dan 25 mlwydd oed hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn ysgolion.
Mae’r canfyddiadau cychwynnol o fwy na 200 o bobl yn awgrymu bod tri chwarter o ddefnyddwyr CAMHS wedi cael profiad negyddol. Dywedodd bron i 75% o ddefnyddwyr CAMHS bod y gwasanaeth a dderbyniwyd wedi bod yn araf i ymateb, ac nid oedd hanner yn teimlo bod y gwasanaeth wedi eu cadw’n ddiogel.
Bydd panel o bobol ifanc o ogledd Cymru sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn trafod y canfyddiadau gyda staff cysylltiol ag Arsyllfa@Bangor a phartneriaethau elusennol fel rhan o lansio’r Ganolfan. Gyda'i gilydd, fe wnaethant argymhellion er sylw adolygiad cyfredol y gweinidog iechyd o CAMHS.
Wrth lansio’r Arsyllfa@Bangor, meddai’r Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:
“Mae gan yr Arsyllfa ran bwysig i'w chwarae o ran datblygu ein dealltwriaeth o roi hawliau plant ar waith yn ymarferol yng Nghymru. Rydw i'n croesawu'r dull cydweithredol sy'n cael ei ddatblygu ar draws sefydliadau academaidd a thu hwnt. Mae’n bwysig ein bod yn dod â hawliau plant yn fyw drwy fonitro a herio'r ffordd yr ydym yn cyflwyno gwasanaethau i'n plant a'n pobl ifanc. Rydw i'n gweld yr Arsyllfa'n chwarae rhan bwysig yn yr agenda hwn. Gobeithio y byddaf yn gallu gweithio gyda'r arsyllfa a defnyddio'r dadansoddiadau dros y 7 mlynedd y byddaf yn y swydd, ond hefyd, yn bwysig iawn, bydd yn parhau'n ffynhonnell annibynnol o ddadansoddi ac adfyfyrio beirniadol ym maes hawliau plant yng Nghymru, a thu hwnt.”
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
“Mae cyfraniad Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn awr yn gwneud ymchwil yr Arsyllfa yn rhywbeth i Gymru gyfan. Rwyf wrth fy modd bod fy nghydweithwyr yn gwneud y cyfraniad hollbwysig hwn. Bydd y cydweithio agos yn ychwanegu at effaith eu hymchwil.”
“Mae hwn yn gyfle gwych i brifysgolion Bangor ac Abertawe, fel ei gilydd,” meddai’r Athro Cysylltiol, Jane Williams, cyd-Gyfarwyddwr Sefydlol Arsyllfa Cymru. “O hyn ymlaen, bydd yr Observatory@Bangor a’r Observatory@Swansea, gan gydweithio ar draws disgyblaethau yn ein dwy brifysgol, yn gallu hyrwyddo ein gwaith ar hawliau plant yn well trwy Gymru benbaladr.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015