Canolfan Bedwyr yn Agor ei Drysau i’r Byd
Bydd nifer o brojectau arloesol sy’n hyrwyddo a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn cael eu dathlu heddiw (12 Hydref 2011) wrth i Ganolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Bangor, agor drysau ei chartref newydd i’r cyhoedd
Mae Canolfan Bedwyr, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed y mis hwn, wedi symud i adeilad ysblennydd Neuadd Dyfrdwy sy’n rhan o’r Ganolfan Rheolaeth ar Ffordd y Coleg. Bydd y ganolfan yn agor drysau ei swyddfeydd newydd rhwng 11 a 5 heddiw er mwyn i staff a myfyrwyr y Brifysgol a’r cyhoedd yn gyffredinol gael cyfle i ddysgu mwy am y gwaith sy’n digwydd yno.
Dros y blynyddoedd, mae Canolfan Bedwyr wedi ennill bri cenedlaethol a rhyngwladol, nid yn unig am ei gwaith yn datblygu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y Brifysgol ei hun ond hefyd am ei gwaith yn hwyluso defnydd ohoni yn llawer ehangach. Mae rhai o brojectau diweddaraf y ganolfan yn adlewyrchu’r gwaith y mae’r Ganolfan yn ei wneud yn y Brifysgol a’r byd mawr. Ar gyfer anghenion mewnol y Brifysgol, datblygwyd systemau rheoli llif gwaith a chof cyfieithu ar gyfer yr uned gyfieithu yn ogystal â gwefan ‘Cymorth Cymraeg’ ar gyfer hwyluso defnydd o’r Gymraeg ymhlith staff a myfyrwyr. Yn allanol, mae’r ganolfan wedi sicrhau cytundebau gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i arwain cynllun i ddatblygu sgiliau Cymraeg athrawon a darlithwyr ac i ddatblygu terminoleg ar gyfer y sectorau uwchradd ac addysg bellach.
Mae Canolfan Bedwyr hefyd yn gweithredu fel cangen weinyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor ac mae’r cartref newydd ar Ffordd y Coleg yn darparu presenoldeb gweladwy i’r Coleg Cymraeg ar gampws Prifysgol Bangor.
Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Wrth i ni agor ein drysau a gwahodd pobl i brofi’r gwaith arloesol sy’n digwydd yn y ganolfan, rydym yn dathlu nifer o ddatblygiadau sydd yn cyfrannu’n ymarferol at nod Llywodraeth Cymru o gynyddu defnydd o’r Gymraeg. Ar yr un pryd, rydym yn falch o fod yn ganolbwynt i ymdrechion Prifysgol Bangor i ddatblygu a chryfhau ei safle fel y Brifysgol arweiniol o ran y Gymraeg ac addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg”.
Dywedodd Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor gyda chyfrifoldeb penodol am y Gymraeg: “Rydw i’n eithriadol o falch fod y Brifysgol wedi gallu rhoi i Ganolfan Bedwyr y cartref teilwng y mae ei gwaith blaengar yn ei haeddu gan ddarparu man canolog hefyd ar gyfer gweithgarwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor.”
Am ragor o wybodaeth am waith Canolfan Bedwyr, cysylltwch â Dr Llion Jones ar 01248 388054 neu e-bostiwch llion.jones@bangor.ac.uk.
Gweler hefyd wefan y Ganolfan www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2011