Canolfan Cymraeg i Oedolion ar y brig
Mae dysgwyr y Gymraeg drwy Gymru gyfan wedi lleisio eu barn am y cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr, ac mae Canolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd wedi sgorio’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
. Mae ffigyrau arolwg blynyddol gan Ipsos MORI, ar ran llywodraeth Cymru, yn dangos yn glir fod Canolfan CiO y Gogledd yn cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i ddysgwyr. Mae’r data yn dangos fod bodlonrwydd dysgwyr yn y gogledd yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol gyda:
- 95% o ddysgwyr y gogledd yn meddwl fod darparwyr y cyrsiau yn dda neu’n dda iawn (93% yn 2013) a dim un dysgwr yn meddwl eu bod yn wael. Mae hyn yn cymharu â chanran o 87% ar gyfartaledd trwy Gymru
- Mae 95% o ddysgwyr y gogledd hefyd yn meddwl fod eu cyrsiau yn cyfarfod â’u disgwyliadau neu’n well na hynny. Hyn yn cymharu â 92% trwy Gymru ar gyfartaledd
Wrth ddadansoddi boddhad dysgwyr y gogledd yn gyffredinol, o’r 5 cwestiwn a gafwyd, roedd y Ganolfan yn rhagori’n sylweddol ar y cyfartaledd cenedlaethol ymhob cwestiwn, ac mewn 3 chwestiwn yn cyrraedd lefel Rhagorol, sy’n atgyfnerthu canfyddiadau Estyn yn 2012 a ddyfarnodd y Ganolfan fel un Rhagorol; yr unig un yng Nghymru. Ymysg yr adborth a dderbynniwyd yn ddi-enw drwy’r adroddiad gan y dysgwyr cafwyd sylwadau megis:
“excellent teaching delivered in a fun way which keeps people interested and motivated”
“ … provides many different methods to help us learn Welsh, inside and outside of class”
“The tutors are friendly and helpful…I would recommend this course to anybody”
“The course is very structured, meaning you are always learning new things whilst reinforcing the older stuff”
Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Canolfan CiO y Gogledd
“Rydym yn falch iawn fod llais y dysgwyr yn adlewyrchu’r gwaith ardderchog mae ein tiwtoriaid yn ei wneud drwy’r flwyddyn. Ethos y Ganolfan yw cynnig y safon uchaf posib, ac fe fyddwn yn parhau i wrando ar ein dysgwyr a thrafod gyda hwy er mwyn cynnal ein safonau yn y dyfodol”
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2014