Cardiau Nadolig gyda darluniau canoloesol unigryw
Mae cardiau Nadolig sydd â chysylltiad arbennig gyda Bangor ar werth yn Eglwys Gadeiriol Bangor a Phrifysgol Bangor y Nadolig hwn.
Mae’r cardiau’n cynnwys dau ddarlun o lawysgrif ganoloesol unigryw y ‘Bangor Pontifical’, neu’r 'Llyfr Esgobol ', a gopïwyd ac a ddarluniwyd oddeutu 1320 ac sy’n cynnwys y testunau, y gerddoriaeth a’r gwasanaethau oedd eu hangen ar gyfer achlysuron arbennig yn ystod y flwyddyn pan oedd yr esgob yn bresennol. Perchennog gwreiddiol y llyfr oedd Anian II, sef Esgob Bangor rhwng 1309 a 1328.
Yn y cardiau mae mân-ddarlun o esgob yn cysegru eglwys, a darlun dudalen agoriadol wedi ei haddurno ar gyfer offeren arbennig i ddathlu tymor y Nadolig.
Mae'r cardiau ar werth yn Eglwys Gadeiriol Bangor a gan Keith Beasley yn yr Ysgol Cerddoriaeth (e bost k.beasley @ bangor.ac.uk) am £ 3.99 am 10 (un dyluniad). Bydd unrhyw elw’n cael ei rannu rhwng yr Eglwys Gadeiriol a phroject Llyfr Esgobol Bangor, sy'n cynrychioli’r cydweithio arbennig rhwng y Brifysgol a'r Eglwys Gadeiriol.
Mae Project Llyfr Esgobol Bangor yn sicrhau mynediad byd-eang at y llawysgrif unigryw hon trwy ei digideiddio a’i gosod ar y rhyngrwyd. Mae’r gwefan eisoes yn galluogi defnyddwyr i edrych ar y llyfr cyfan, ac i chwyddo rhannau o’r tudalennau er mwyn gweld yr addurniadau cywrain a’r nodiant cerddorol. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod bydd rhagor o adnoddau yn cael eu hychwanegu i’r wefan, gan gynnwys sylwadau a darluniau ychwanegol, cyfieithiadau’n rhedeg yn gyfochrog a deunyddiau addysgol, yn ogystal â chyfleuster sain fel y gall defnyddwyr glywed rhai o'r llafarganu’n cael eu perfformio.
Meddai Dr Sally Harper, un o gyfarwyddwyr y project, "Mae’r Llyfr Esgobol yn llawysgrif oliwiedig hardd iawn ac mae hyd yn oed yn cynnwys dwdlan canoloesol ar ymylon y tudalennau. Dewiswyd y darluniau oherwydd bod y tudalennau hyn yn cynrychioli pwyntiau allweddol yn y llawysgrif, ac yn dangos gwaith mwyaf creadigol yr arlunydd ym Mangor."
Ychwanegodd y Gwir Barchedig Dr Sue Jones, Deon Bangor: "Mae'r Llyfr Esgobol yn un o drysorau'r Eglwys Gadeiriol, ac mae'r project hwn sy’n fenter ar y cyd yn cynrychioli rhan bwysig o ddatblygu ein cysylltiad gyda’r Brifysgol."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2011