Cariad tuag at ddysgu yn ennill £1,000 i Maisie
Gyda’i chwrs wedi rhoi’r cyfle iddi deithio i lefydd anhygoel ac ennill mwy o brofiad bywyd nag y gallai erioed ddychmygu, mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth UCAS/The Times Love Learning.
Mae Maisie Prior, 20, o Littlethorpe Leicester, sy'n astudio ar gyfer gradd BA Sbaeneg gyda Phrofiad Rhyngwladol, yn un o dri a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, ac mae wedi ennill gwobr o £1,000 ynghyd â thanysgrifiad am flwyddyn i’r Times.
Fe wnaeth oddeutu 2,500 o fyfyrwyr gymryd rhan yn y gystadleuaeth lle eu heriwyd i ysgrifennu traethawd 500 gair neu gynhyrchu fideo 30 eiliad sy'n dangos sut y maent wedi cael eu swyno gan eu cwrs.
Dywedodd Mary Curnock Cook, Prif Weithredwr UCAS: "Dyma’r ail flwyddyn i ni redeg y gystadleuaeth Love Learning, ac mae wedi rhoi’r cyfle i fwy o fyfyrwyr gyhoeddi angerdd penrhydd ar gyfer eu pwnc.
"Llongyfarchiadau i'n henillwyr ar eu ceisiadau sydd yn dal yr ymdeimlad o hunan-greu ac ehangu sef hanfod addysg uwch."
Wrth ei bodd gyda’i chwrs, ysgrifennodd Maisie yn ei thraethawd:
… I believe my dearly loved degree has made me who I am today. Spanish has given me the confidence to just drop everything and go, if only to satisfy that craving of needing to learn more; learn more vocabulary, learn more about different food, cultures, and the kindness of strangers. To learn what it means to be fearless, to be lost in a new place, to be the only one in the room who is foreign.
Wedi mopio gyda'i chyflawniad, dywedodd Maisie: "Fe wnes i gymryd rhan yn y gystadleuaeth gyda’r gobaith y gallwn ysbrydoli pobl eraill i ddysgu ieithoedd.
"Roeddwn wedi synnu i ddod yn ail, mae'n anhygoel! Mae astudio Sbaeneg wedi bod yn daith; rydw i mor angerddol am y pwnc ac rwy'n falch iawn y daeth hyn ar draws yn y traethawd. Mae hefyd yn deimlad anhygoel i gael rhywfaint o gydnabyddiaeth i’r pwnc, yn enwedig gyda niferoedd ceisiadau ar gyfer cyrsiau ieithoedd modern o fewn prifysgolion wedi gostwng yn ddiweddar.”
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2014