Carreg filltir bwysig yn y gwaith adeiladu ar ddatblygiad pentref myfyrwyr gwerth miliynau o bunnoedd
Mae'r datblygiad £38 miliwn ar lety myfyrwyr yn neuaddau Santes Fair Prifysgol Bangor wedi cyrraedd carreg filltir hollbwysig gyda thîm y project o VINCI yn cyrraedd pwynt uchaf yr adeilad ar ôl cwblhau'r ffrâm a'r to dur ar bob un o'r adeiladau newydd niferus yn y datblygiad.
I ddathlu'r digwyddiad, cynhaliodd y Brifysgol seremoni gosod y garreg gopa ar y safle ym mhentref myfyrwyr y Santes Fair i ddynodi'r garreg filltir allweddol hon yn y gwaith adeiladu.
Bydd y datblygiad yn darparu 602 o ystafelloedd newydd i fyfyrwyr ar draws saith adeilad ynghyd â chyfleusterau cymdeithasol a gweinyddol mewn amgylchedd campws modern.
Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu gan gonsortiwm sy'n cynnwys cwmni o Gaer, Cityheart Cyf gyda'r partneriaid Vinci Construction UK Cyf. a CRM Cyf.
Meddai’r Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
"Mae hwn yn dynodi cam pwysig yn ein huchelgais i ddatblygu ymhellach cyfleusterau myfyrwyr ardderchog ym Mhrifysgol Bangor. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu rhagor o lety i'n myfyrwyr mewn cyfleusterau a reolir gan y brifysgol yn hytrach na mewn tai lleol. Gan ddarparu'r holl gyfleusterau y byddai myfyrwyr heddiw yn disgwyl eu gweld ar gampws preswyl modern, bydd gan y pentref myfyrwyr newydd ymdeimlad gwirioneddol o gymuned."
Meddai Mark McNamee o Cityheart: “Mae'n garreg filltir gyffrous arall i'r project, sy'n dystiolaeth bellach bod y dull partneriaeth o weithredu a fabwysiadwyd gan Brifysgol Bangor, Vinci a Cityheart yn talu ar ei ganfed gyda'r project hwn.”
Meddai Peter Dodd, Rheolwr Project VINCI:
"Mae cwblhau'r cam pwysig hwn yn y gwaith adeiladu yn gyflawniad pwysig i'r project. Gyda'r holl fframiau a thoeon dur yn eu lle, gall y tîm symud ymlaen a chanolbwyntio ar orffen y gwaith mewnol. Mae'n argoeli i fod yn llety ardderchog i fyfyrwyr ar ffurf pentref a chyfleusterau unigryw i'r brifysgol."
Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Ebrill 2014 a bydd y safle yn dechrau cael ei drosglwyddo ym mis Gorffennaf 2015 gyda myfyrwyr yn symud i mewn o fis Medi 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2015