Cartref yn y Brifysgol i Fenter Cydweithredol sy’n gwerthu llysiau lleol
Mae menter gydweithredol leol sy’n galluogi pobl i brynu llysiau sydd wedi’u tyfu’n lleol wedi ei hail-lansio’n llwyddiannus yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas yn ddiweddar.
Mae'r cynllun yn galluogi pobl i archebu a chasglu bagiau llysiau o’r Ganolfan Chwaraeon bob dydd Gwener rhwng 5.30pm a 6:15pm. Bydd yn gwerthu llysiau a dyfwyd yn lleol ac mae’n gobeithio dangos ei bod yn bosib siopa’n lleol am bris fforddiadwy.
Wrth groesawu’r fenter gyffrous, dywedodd Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor, “Rydym yn falch o allu rhoi cartref i’r fenter ym Maes Glas. Mae’n rhoi cyfle i’r gymuned leol ac i’n myfyrwyr brynu ffrwythau a llysiau a dyfwyd yn lleol, ac mae’n cyd-fynd ag ymrwymiad y Brifysgol wrth gynaladwyedd.”
Meddai Rosie Kressman, 30, un o'r trefnwyr, sy’n byw yng Nghwm-y-glo, Llanberis, “Rydym yn gwerthu bagiau o lysiau am gyn lleied â £ 3. Mae pob bag yn cynnwys ddigon i un i ddau o bobl am wythnos ac yn cael ei gyflenwi mor lleol a chynaliadwy â phosibl.”
“Mae pobl yn archebu’n wythnosol, felly does dim angen cofrestru am gyfnod hir. Bydd y bagiau llysiau yn cael eu cyflenwi gan dyfwr lleol, gyda bron pob un o’r llysiau yn tyfu ar fferm sy’n llai na deng milltir o Fangor, neu’n cael eu cyflenwi gan dyfwyr eraill mor lleol ag y bo modd.”
Sefydlwyd y fenter gydweithredol yn wreiddiol gan Dr David Shaw, pan oedd yn Gyfarwyddwr Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes Prifysgol Bangor yn Abergwyngregyn, ond mae’r cynllun bellach wedi’i drosglwyddo i Jamie Stroud, Rosie Kressman a Stephanie Johnson, sy’n awyddus i lwyddo er mwyn cefnogi busnesau lleol ac annog pobl i siopa’n lleol.
Dywedodd Jamie Stroud, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor, “Mae’r Fenter gydweithredol yn cael ei chynnal yn wirfoddol ac nid i wneud elw. Mae angen gwirfoddolwyr i helpu gyda phacio, hyrwyddo, a dosbarthu’r bagiau. Mae’n gyfle gwych i gwrdd â phobl ac i gymryd rhan mewn cefnogi cynnyrch lleol, cynaliadwy, felly cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan.”
Meddai Stephanie Johnson, 30, sy'n gweithio ar gyfer Action on Hearing Loss Cymru ym Mangor, “Mae mor bwysig cefnogi cynhyrchwyr lleol – i leihau eich ôl-troed carbon, ac i greu cymunedau iach a chynaliadwy.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i gysylltu, anfonwch e-bost at rosie@kressman.co.uk neu jamie.a.stroud@gmail.com neu ffoniwch Rosie ar 07931 285187.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2012