Caru Cerddoriaeth Casáu Homoffobia yn Cyrraedd Cymru
Mae myfyrwyr Bangor wedi cydweithio gydag Undeb y Myfyrwyr, Undod Bangor ac Amnest Bangor i drefnu un o gigs gorau’r tymor (6.12.11).
Mae Caru Cerddoriaeth Casáu Homoffobia (LMHH) yn ymgyrch genedlaethol sy’n gweithio i ymosod ar ymddygiad homoffobig drwy daflu goleuni ar yr hyn sy’n ei gymell, ac ar yr un pryd arddangos talent gerddorol leol. Crëwyd yr ymgyrch drwy gydymdrechion rhwng Ymgyrch LHDT UCM ac Unedig yn Erbyn Ffasgiaeth (United Against Fascism) i wrthsefyll ymdrechion gan grwpiau ffasgaidd fel yr EDL/WDL a’r BNP. Mae wedi teithio drwy Brydain ond heb ddod i Gymru o’r blaen felly dechreuwyd ymgyrch i gynnal LMHH ym Mangor.
Bydd y DJs yn cynnwys Llywydd UM Bangor Jo Caulfield a Llywydd Urdd Myfyrwyr Aberystwyth Ben Meakin a byddant yn chwarae cerddoriaeth indie electro am y gorau drwy ddechrau’r noson, ac yna bydd Sama Abdul yn gorffen y noswaith gyda sbloet o techno tanddaearol blaengar.
“Rwy’n credu bod hwn yn fenter wych ar ran Undeb y Myfyrwyr ac rydym yn gobeithio y bydd Prifysgolion eraill ledled Cymru yn dilyn eu hesiampl,” meddai Zahid Raja sy’n aelod o bwyllgor llywio cenedlaethol Caru Cerddoriaeth Casáu Homoffobia. Bydd y digwyddiad hefyd yn gweithio fel model ar gyfer digwyddiadau ymgyrchu a chodi arian eraill yn yr ardal, fel Caru Cerddoriaeth Casáu Hiliaeth sy’n mynd i ymweld â Bangor ym mis Mawrth.
Bu cryn feirniadu ar fudiadau ac elusennau cenedlaethol sy’n gweithio ar faterion yn ymwneud â rhywioldeb a rhywedd am fethu â dangos cefnogaeth i ogledd Cymru, felly mae’r digwyddiad LMHH yma ym Mangor yn bwriadu newid hynny drwy gefnogi elusennau lleol sy’n gweithio yn y gogledd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2011