Caru Eich Dillad yn Gosod Her Dillad ‘un dunnell’ i Bobl Bangor
Bydd Caru Eich Dillad, a Lab Cynaliadwyedd ac Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn herio myfyrwyr a staff y Brifysgol, a chymuned ehangach Bangor, i roddi un dunnell o ddillad dieisiau i elusennau lleol, fel rhan o ‘Caru Eich Dillad Bangor’ - sef cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir rhwng 11 ac 16 Mawrth yng Nghanolfan Siopa Deiniol, sydd â’r nod o amlygu effeithiau amgylcheddol dillad.
Bob blwyddyn yn y DU, mae 350,000 tunnell o ddillad yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Mae ‘Caru Eich Dillad Bangor’ yn annog y gymuned i rannu’r cariad am ddillad trwy chwilio yn eu cypyrddau dillad, dod o hyd i ddillad dieisiau, a mynd â nhw i siop dros dro Caru Eich Dillad yn y ganolfan siopa.
Bydd y siop dros dro yn ganolfan brysur o weithdai gwnïo ac uwchgylchu rhad ac am ddim, sgyrsiau ac arddangosidadau gofal ac atgyweirio, cyfnewid dillad a digwyddiadau i’r teulu – y cyfan wedi’u hanelu at helpu pobl i adnabod gwerth gwirioneddol eu dillad a gwneud y mwyaf ohonynt. Bydd y dillad a roddir i’r siop dros dro yn cael eu rhoi i Age Cymru, British Heart Foundation (BHF) Cymru ac Antur Waunfawr, sy’n cefnogi digwyddiad ‘Caru Eich Dillad Bangor’.
• Casgliadau dillad siop dros dro Caru Eich Dillad Beth bynnag yw’r maint, siâp neu liw, caiff unrhyw ddillad mewn cyflwr da ei groesawu yn y siop – gellir dod â dillad rhwng 12pm a 2pm, 7 – 10 Mawrth, a rhwng 10am a 4pm, 11 – 12 Mawrth. Gwiriwch y pentwr sy’n tyfu o ddillad sy’n cael eu casglu bob dydd, sy’n adlewyrchu graddfa’r dillad a allai fod yn mynd i wastraff. Os yw eitem yn mynd i fyw yng nghefn y cwpwrdd, ewch ag ef i’r siop dros dro a chasglu tocynnau i siopa am eitemau ail-law mewn digwyddiad rhad ac am ddim ‘Swishing’ a Chyfnewid Dillad, ddydd Mawrth, 15 Mawrth.
• Ymestyn oes dillad – dysgu sgiliau newyddCewch gyngor ar greu cwpwrdd capsiwl, gwneud i’ch dillad bara’n hwy a sut i gael gwared ar staeniau o’ch hoff eitemau dillad, mewn arddangosiadau arbenigol a dosbarthiadau meistr, ddydd Gwener, 11 Mawrth. Ewch i’r Caffi Trwsio ar yr un diwrnod os oes gennych ddilledyn sydd angen ei drwsio a bydd trwsiwr proffesiynol wrth law i roi bywyd newydd i’r eitem. Trefnwch sesiwn ar ailwampio ac uwchgylchu eich cwpwrdd neu ddysgu cyfrinachau gwnïo mewn gweithdai a gynhelir rhwng 14 ac 16 Mawrth.
• Hwyl i’r Teulu ar gyfer y PasgCadwch y teulu cyfan yn brysur a’u diddanu gyda diwrnod llawn gweithgareddau, ddydd Sadwrn, 12 Mawrth, fel gwneud crysau-t wedi’u clymliwio, pypedau hosan a chwningod y Pasg, y cyfan o ddillad wedi’u hailgylchu. Ymunwch â llwybr trysor y Pasg, i ddysgu sut mae elusennau lleol yn elwa o’ch rhoddion dillad.
Dywedodd Catrin Palfrey o Caru Eich Dillad: “Mae pedwar allan o bump oedolyn heb gwisgo rhai o’r ddillad yn eu wardrob am flwyddyn o leiaf. Rydym ni eisiau gweithio gyda phobl Bangor i leihau effaith dillad ar yr amgylchedd mewn ffordd hwyliog a dymunol, trwy annog pobl i roddi dillad, prynu dillad ail-law, gofalu am eu dillad yn fwy effeithiol a dysgu sgiliau sylfaenol trwsio, sy’n cael eu hanghofio’n aml.
“Rydym yn annog pobl leol Bangor i gymryd rhan mewn rhoddi dillad i dair elusen wych yng Nghymru, trwy ddod â bag o ddillad i’r siop dros dro ym Mangor, o 7 Mawrth ymlaen.”
Esboniodd Dr Einir Young, Cyfarwyddwr y Lab Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, bwysigrwydd y digwyddiad hwn: “Bu’n uchelgais hirsefydledig gan Brifysgol Bangor i ddod yn ‘brifysgol gynaliadwy’, ond rydym yn ymwybodol nad yw hon yn daith rydym yn ei chyflawni ar ein pennau ein hunain. Mae’r digwyddiadau hyn yn enghraifft wych o beth y gellir ei gyflawni pan mae staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach yn dod at ei gilydd, gyda nod gyffredin.”
‘Caru Eich Dillad Bangor’ yw digwyddiad cyntaf Caru Eich Dillad yng Nghymru. Mae’r cydweithrediad yn deillio o ymrwymiad Caru Eich Dillad i annog pobl i feddwl am y ffordd y maent yn prynu, defnyddio a chael gwared ar ddillad; a dyhead cryf Prifysgol Bangor i ddod â chynaliadwyedd yn fyw trwy addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
I gael gwybodaeth fanwl am gasgliadau dillad, gweithgareddau a digwyddiadau neu i gadw lle yn un o’r gweithdai, ewch i http://loveyourclothes.org.uk/pum-diwrnod-tunnell-o-ddillad/ a dilynwch ni ar Twitter @loveyourclothes #CaruEichDilladBangor i gael diweddariadau rheolaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2016