CD myfyriwr yn ddewis CD Roc a Phop yr wythnos yn The Sunday Times
Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau’r flwyddyn ar nodyn uchel- gan fod CD newydd ei fand Y Niwl o’r un enw, wedi derbyn y clod o’i ddethol yn CD yr wythnos gan bapur newydd y Sunday Times yn eu hatodiad diwylliant.
Gruff ab Arwel, sy’n astudio Cerddoriaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor yw organydd a gitarydd y grŵp.
Mae’r adolygiad ffafriol yn sicr o ddod a’r grŵp at sylw cynulleidfa llawer mwy. Yn ogystal â hyn, mae Gruff, a berfformiodd gynt fel hanner Eitha Tal Ffranco, ac aelodau eraill y band yn mynd i fod yn brysur dros y misoedd i ddod. Maent yn cefnogi Gruff Rhys, o’r Super Furry Animals, ar daith o amgylch y DU fis Chwefror ac i Japan fis Ebrill.
Mae eu math arbenigol o pop ‘retro’- sy’n ail greu sain syrffio’r 60au yn derbyn llawer o glod a sylw gan adolygwyr, gyda The Independent a The Guardian ac Adam Walton o Radio Wales yn eu plith.
Dywedodd Gruff ei fod yn mwynhau’r syndod a ddaw efo bob sylw da mae’r grŵp yn ei ddenu ac yn eiddgar i weld pa mor bell y gall y grŵp deithio ar y don o lwyddiant y maent yn ei fwynhau ar hyn o bryd!
“Yn ffodus mae’r band a Phrifysgol yn cadw oriau tra gwahanol felly mae’n bosib dilyn y ddau beth, ac mae fy nhiwtoriaid wedi bod yn gefnogol ac wedi helpu fi i ffitio pob dim i mewn. Dwi’n dal i weithio allan sut y byddaf yn dilyn y daith ond dylai fod yn iawn,” meddai Gruff.
“Mae’r rhan cerdd o fy ngradd wedi bod yn help mawr i mi osod cerddoriaeth y grŵp yn ei chyd-destun cerddorol ac wedi fy nghynorthwyo ar yr ochr gerddorol hefyd.”
Meddai Dr Craig Owen Jones, tiwtor personol Gruff, darlithydd yn Ysgol Cerdd y Brifysgol ac ymchwilydd mewn astudiaethau cerddoriaeth boblogaidd:
“Roeddwn i’n ffan o waith Gruff fel hanner Eitha Tal Ffranco hyd yn oed cyn iddo gychwyn astudio yn yr Ysgol Gerdd. Mae ei waith ar y Beatles a Punk wedi bod yn arbennig drwyddo draw- ac mae’n hawdd gweld pam!”
“Gruff yw’r diweddara mewn llif cyson o fyfyrwyr o Ysgol Cerdd y Brifysgol i fwynhau llwyddiant o fewn y diwydiant cerddoriaeth boblogaidd. Does gen i ddim dwywaith y bydd o a’r Niwl yn mynd yn bell.”
Gallwch wrando ar Y Niwl ar eu tudalen MySpace, yma
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012