Cefnogaeth i fyfyrwyr newydd Bangor ar restr fer ar gyfer Gwobr
Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor, sy’n cefnogi myfyrwyr newydd ac yn sicrhau eu bod yn ymgynefino’n hwylus â bywyd Prifysgol, wedi ei osod ar restr fer ar gyfer Gwobr gan Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.
Mae’r Cynllun Arweinwyr Cyfoed yn paru myfyrwyr newydd gydag ‘Arweinwyr Cyfoed’, myfyrwyr ail neu drydedd flwyddyn sy’n gweithredu fel mentoriaid, gan drefnu gweithgareddau cymdeithasol, arwain myfyrwyr o amgylch y Brifysgol a’r ddinas a rhoi cyngor cyffredinol, o’r lle gorau i siopa at gynghori lle yn y Brifysgol i fynd am gefnogaeth academaidd a chefnogaeth fugeiliol.
Mae’n un o’r cynlluniau mwyaf o’i fath ym Mhrydain, ac wedi bod yn datblygu ac ehangu ers y peilot cyntaf dros 15 mlynedd yn ôl. Eleni, am y tro cyntaf, bydd gan fyfyrwyr ôl-radd eu cynllun cyfeillio cyfatebol, sef Arweinwyr Ôl-raddedigion.
“Mae’n myfyrwyr yn gwirfoddoli fel Arweinwyr Cyfoed gan eu bod yn cofio’r croeso gwych a gawsant yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn y Brifysgol, ac yn awyddus i dalu’r gymwynas yn ôl,” esbonia Kim Davies, sydd yn rheoli’r rhaglen ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn derbyn hyfforddiant trylwyr o flaen llaw, fel eu bod yn gweithredu fel ‘pwyntiau cyfeirio’ effeithiol at wasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael o fewn y Brifysgol,” ychwanega.
“Yn ôl ein profiad, rydym yn gwybod mai po gyflyma y mae’r myfyrwyr newydd yn integreiddio’n gymdeithasol, cyflymaf y maent yn integreiddio o safbwynt academaidd hefyd. Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn cyfrannu gan greu cyfleoedd i’r myfyrwyr newydd gymdeithasu, gan gymryd cyfrifoldeb dros grwpiau unigol o fyfyrwyr, a thrwy drefnu gweithgareddau o fewn eu Hysgolion academaidd. Mae hyn o fudd i’r myfyrwyr ac i’r Brifysgol. Mae’r Arweinwyr Cyfoed hefyd yn elwa, gan ennill sgiliau cyflogaeth gwerthfawr yn y broses, ychwanega’r Athro Colin Baker, Dirprwy Is-Ganghellor sydd â chyfrifoldeb dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae cyfraniad yr Arweinwyr Cyfoed at fywyd cymdeithasol ac academaidd y Brifysgol hefyd yn amhrisiadwy ac yn ein gwneud yn Brifysgol sy’n gofalu’n wirioneddol,” ychwanegodd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2010