Cefnogaeth i fyfyrwyr newydd Bangor ar restr fer ar gyfer Gwobr
Mae nhw wedi dod yn gyfarwydd- yr Arweinwyr Cyfoed yn eu crysau T llachar sydd i’w gweld o amgylch y Brifysgol yn ystod yr Wythnos Groeso - ond mae nhw wir yn rhywbeth arbennig. Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol wedi ei osod ar restr fer ar gyfer Gwobr gan Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.
Mae’r Cynllun Arweinwyr Cyfoed un o’r cynlluniau mwyaf o’i fath ym Mhrydain. Mae’n paru myfyrwyr newydd gydag ‘Arweinwyr Cyfoed’, myfyrwyr yr ail neu drydedd flwyddyn sy’n gweithredu fel mentoriaid, gan drefnu gweithgareddau cymdeithasol, arwain myfyrwyr o amgylch y Brifysgol a’r ddinas a rhoi cyngor cyffredinol, o’r lle gorau i siopa at gynghori lle yn y Brifysgol i fynd am gefnogaeth academaidd a chefnogaeth fugeiliol. Mae’r Cynllun wedi bod yn datblygu ac ehangu ers y peilot cyntaf dros 15 mlynedd yn ôl. Eleni, am y tro cyntaf, bydd gan fyfyrwyr ôl-radd eu cynllun cyfeillio cyfatebol, sef Arweinwyr Ôl-raddedigion.
Meddai Owen Ladds, myfyriwr Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn ei flwyddyn gyntaf: “Diolch i’r Arweinwyr Cyfoed Bangor, roeddwn yn medru setlo mewn yn hawdd a gwneud nifer o ffrindiau, sydd bellach wedi troi’n deulu prifysgol i mi.”
Dywedodd Craig Parkinson, sy’n astudio BSc mewn Cyfrifiadureg am yr Arweinwyr Cyfoed: “Maent yn helpu chi i ymlacio mewn amgylchedd newydd, wrth sicrhau eich bod yn cael amser da.”
“Gwnaeth yr Arweinwyr Cyfoed i mi deimlo’n rhan o’r lle o’r cychwyn,” meddai Jennifer Langdon, sydd yn ei flwyddyn gyntaf o gwrs pedair blynedd mewn Bioleg Môr.
“Mae’r myfyrwyr yn gwirfoddoli fel Arweinwyr Cyfoed gan eu bod yn cofio’r croeso gwych a gawsant yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn y Brifysgol, ac yn awyddus i dalu’r gymwynas yn ôl. Maent yn derbyn hyfforddiant trylwyr o flaen llaw, fel eu bod yn gweithredu fel ‘pwyntiau cyfeirio’ effeithiol at wasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael o fewn y Brifysgol,” esbonia Kim Davies, sydd yn rheoli’r rhaglen yn y Brifysgol - o recriwtio a hyfforddi’r Arweinwyr Cyfoed hyd ar y Seremoni Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn.
Meddai Edward Reynolds, sy’n Arweinydd Cyfoed am y tro cyntaf eleni: “ Rwy’n cofio pa mor anodd yw’r wythnos gyntaf yn y Brifysgol, ac eisio helpu myfyrwyr newydd i fwynhau’r wythnosau hynny, a gobeithio, gweddill eu hamser yn y Brifysgol.
"Y pleser yw gwybod eich bod wedi gwneud job dda ac wedi plesio’r myfyriwr da chi’n ceisio’u helpu, ac yn y pendraw wedi’u hymgartrefu mewn i’r un bywyd ag ydach chi’n ei ddilyn.”
Meddai Stevie Fox, Arweinydd Cyfoed Uwch yn yr Ysgol Saesneg: “Mae o i gyd yn ymwneud â helpu’r glas fyfyrwyr sy’n cyrraedd y Brifysgol. Efallai eu bod yn nerfus, a rhai ohonynt heb fyw oddi cartref o’r blaen. Mae’n wyneb cyfeillgar, help llaw, rhywun sy’n deall sut mae pethau’n gweithio a lle mae pob dim.”
“Mae hefyd am roi ‘nôl i’r Brifysgol. Dwi’n gwybod fod hyn yn swnio’n ystrydeb, ond yr hyn ydach chi’n ei wneud yw cymryd o’ch profiad eich hun a gweld sut fasech chi’n hoffi cael eich trin.”
“Yn ôl ein profiad, rydym yn gwybod mai po gyflyma y mae’r myfyrwyr newydd yn integreiddio’n gymdeithasol, cyflymaf y maent yn integreiddio o safbwynt academaidd hefyd. Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn cyfrannu gan greu cyfleoedd i’r myfyrwyr newydd gymdeithasu, gan gymryd cyfrifoldeb dros grwpiau unigol o fyfyrwyr, a thrwy drefnu gweithgareddau o fewn eu Hysgolion academaidd. Mae hyn o fudd i’r myfyrwyr ac i’r Brifysgol. Mae’r Arweinwyr Cyfoed hefyd yn elwa, gan ennill sgiliau cyflogaeth gwerthfawr yn y broses, dywedodd Yr Athro Colin Baker, Dirprwy Is-Ganghellor sydd â chyfrifoldeb dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae cyfraniad yr Arweinwyr Cyfoed at fywyd cymdeithasol ac academaidd y Brifysgol hefyd yn amhrisiadwy ac yn ein gwneud yn Brifysgol sy’n gofalu’n wirioneddol,” ychwanegodd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2010