Cemegwyr Ifainc yn mesur cynnwys halen mewn creision!
Bu timau o gemegwyr ifainc o ysgolion yng ngogledd a chanolbarth Cymru a’r gororau yn chwarae rôl cemegwyr dadansoddol yn gwirio cynnwys sodiwm (halen) mewn samplau o greision tortilla wrth iddynt gystadlu yn rownd derfynol ranbarthol Cystadleuaeth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ar gyfer Dadansoddwyr o Ysgolion ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Yn y gystadleuaeth a’r sialens a osodwyd i’r myfyrwyr Cemeg lefel-A, roedd yn rhaid iddynt weithio i safonau proffesiynol a chynhyrchu data o ansawdd uchel y gellid eu defnyddio i ganfod a all bwyta gormod o'r creision fod yn wael i'ch iechyd.
Roedd creu senario ‘bywyd go-iawn’ ar gyfer y gystadleuaeth yn dangos un o’r swyddogaethau niferus a gyflawnir gan gemegwyr yn y byd modern. Aseswyd y timau yn ôl sgil, dealltwriaeth a chywirdeb, yn ogystal â gwaith tîm a diogelwch yn y labordy.
Roedd y tîm buddugol o Ysgol Ruthin (Tîm B) a byddant yn ymuno ag ysgolion eraill y DU ar gyfer y rowndiau terfynol a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor ym mis Mehefin eleni.
Aeth yr ail wobr hefyd i Ysgol Ruthin (Tîm A) a'r drydedd wobr i Ysgol Bishop Heber o Swydd Gaer.
Meddai Dr Andrew Davies trefnydd y digwyddiad: "Gwnaed argraff dda iawn arnom gan frwdfrydedd a safon uchel y cystadleuwyr eleni. Dymunwn bob lwc i Ysgol Ruthin ar gyfer y rownd derfynol ym mis Mehefin.
Cynhelir y rownd derfynol genedlaethol ar gyfer y Gystadleuaeth bwysig hon yn y DU ym Mhrifysgol Bangor eleni ar 20 a 21 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018