Cemegwyr ifanc yn datgelu cyfrinachau ac ennill gwobrau mewn Gŵyl Gemeg
Roedd disgyblion o Ysgol Tryfan, Bangor ymysg wyth tîm o bobl ifanc 11-13 oed o bob rhan o Ogledd Cymru a wnaeth fwynhau diwrnod llawn hwyl yn y labordai Cemeg ym Mhrifysgol Bangor yn ystod Gŵyl Gemeg Salters eleni.
Yn ystod y bore fe wnaeth y timau gymryd rhan mewn her gystadleuol, "Dirgelwch y Gwpan Ganmlwyddiant Goll", lle gwnaethant roi eu sgiliau dadansoddol ym maes cemeg ar waith. Yn y prynhawn fe wnaethant gystadlu yn yr "Her Prifysgol", gweithgaredd ymarferol arall yn ymwneud â datrys problem drwy arbrofi â chemeg oeri. Dilynwyd hyn gan ddarlith fflach a bang a roddwyd gan Techniquest, Glyndŵr! Daeth y diwrnod i ben gyda chyflwyno gwobrau, lle cafodd pawb a gymerodd ran wobrau unigol defnyddiol a thystysgrifau.
Mae'r Ŵyl ym Mhrifysgol Bangor yn un o gyfres o 53 o Wyliau a gynhelir mewn prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon rhwng Mawrth a Mehefin. Sefydliad Salters sydd yn gyfrifol am Wyliau Cemeg Salters. Eu bwriad yw hyrwyddo cemeg a’r gwyddorau cysylltiedig ymysg pobl ifanc.
Yr enillwyr gwobrau oedd:
Her Salters
1af Rhuthun
2il St Brigid’s
3ydd Rydal Penrhos
Her Prifysgol:
1af Genethod Tryfan
2il Bechgyn Tryfan
3ydd Rydal Penrhos
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2018