Cenedl ofalgar ymwybodol?
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg pobl sydd am wella eu hiechyd a’u lles meddyliol. Mae erthyglau di-ri ar y pwnc wedi ymddangos yn y cyfryngau’n ddiweddar, ynghyd â llyfrau a DVDs i bobl sydd am wybod mwy amdano. Cafwyd twf yn nifer yr athrawon a’r dosbarthiadau preifat i rai sydd eisiau dysgu sut i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ac yn sicr mae’r GIG wedi cynyddu’r defnydd o ymwybyddiaeth ofalgar gyda grwpiau cleifion penodol yn ystod y degawd diwethaf.
Disgrifir Ymwybyddiaeth Ofalgar fel yr ymwybyddiaeth sy'n dod i'r amlwg trwy roi sylw bwriadol, yn y foment bresennol, gyda chwilfrydedd a thosturi. Mae ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn arwain pobl i ddeall bywyd yn ddyfnach ac ymateb yn ddoeth.
Mae Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor wedi chwarae rhan allweddol mewn cyflwyno Ymwybyddiaeth Ofalgar i'r Deyrnas Unedig, mewn ymchwilio i’w heffeithiolrwydd mewn lleoliadau gwahanol ac mewn hyfforddi ymarferwyr.
Mae Grŵp Seneddol Hollbleidiol, sydd wedi bod yn ystyried Ymwybyddiaeth Ofalgar, bellach wedi lansio adroddiad interim The Mindful Nation UK, sy’n annog pob plaid yn yr etholiad nesaf i ystyried y ffordd orau o gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar yn y ffordd y mae eu plaid yn mynd i'r afael â’r argyfwng iechyd meddwl.
Mae'r adroddiad yn disgrifio sut y gallai ymwybyddiaeth ofalgar chwarae rhan mewn addysg, gofal iechyd, gwaith a chyfiawnder troseddol.
Bu Rebecca Crane o Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor yn eistedd ar Banel Ymgynghorol y Grŵp Seneddol Hollbleidiol, ac mae wrth ei bodd bod gwaith datblygu ymchwil a gwasanaeth Prifysgol Bangor yn cael ei gynrychioli yn gryf yn yr adroddiad; gyda Phrifysgol Bangor wedi cyfrannu ymchwil i dri o'r pedwar maes a drafodir.
Dywedodd:
"Mae'r Adroddiad yn cynnig cyfle gwych i dynnu sylw at y gwaith sy'n digwydd mewn prifysgolion megis Bangor, i ddatblygu rhaglenni ac arferion newydd yn ogystal ag ymchwilio i effeithiolrwydd ymwybyddiaeth ofalgar a sut mae'n cael ei defnyddio mewn gwahanol leoliadau a gyda gwahanol grwpiau o bobl. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn dangos y gwaith ymarferol sy'n digwydd a'r gwaith o ddylanwadu ar bolisi a gweithredu, ac yn ein cynorthwyo wrth ledaenu’r ddealltwriaeth newydd sy’n deillio o ymchwil, i ymarferwyr, i bobol neu gyrff a all elwa o fabwysiadu rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar, ac i’r cyhoedd yn gyffredinol."
Datganiad i’r wasg y mental Health Foundation
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2015