Cenhedloedd Unedig neu Wladwriaethau Unedig?
Bydd y Gw. Anrh. Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn rhoi darlith Gyhoeddus Ddydd Gwener, 7 Hydref am 6.30pm yn Ystafell Ddarlithio 4, Prif Adeilad Prifysgol Bangor. Mae’r ddarlith sydd ar agor i bawb yn cael ei chynnal gan Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig (Cangen Menai). Bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd.
Mae'r ddarlith yn ôl ei thestun yn trafod y cymysgedd ystyr rhwng y geiriau 'cenedl' a 'gwladwriaeth' neu 'cenedlaethol a 'gwladol' mewn ieithwedd sefydliadau rhyngwladol. Mae'r teitl Saenseg yn fwriadol amwys, 'United Nations or United States' yn cyfeirio at or-ddylanwad gwladwriaethau mwy o fewn sefydliad y 'Cenhedloedd Unedig' yn arbennig y 'Cyngor Diogelwch'. Bydd y dadansoddiad o rôl asiantaethau rhyngwladol dan nawdd y Cenhedloedd Unedig yn fwy adeiladol ei gasgliad. Ond bydd yn annog y dylai'r UE gynrychioli Ewrop ar y Cyngor Diogelwch yn lle'r Gwladwriaethau'r DU a Ffrainc fel 'aelod parhaol'. O fewn yr UE argymhellir datblygu tuag at 'Ewrop y Rhanbarthau' yn hytrach nag UE o aelod-wladwriaethau. Diweddir drwy amlinellu rôl Cymru fel, yng ngeiriau’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: 'cenedl all neidio dros y cyfnod difaol o genhedloedd-gwladol yn hanes cyfandir Ewrop a'r byd i fod yn un o bartneriaid creiddiol 'Ewrop y Rhanbarthau' mewn planed wirioneddol gydwladol yng ngwir ystyr y gair.'
Bu’r Arglwydd Elis-Thomas yn aelod seneddol o 1974 hyd 1992, pan ddaeth yn Arglwydd am Oes. Mae’n aelod o Gynulliad Cymru a bu’n Llywydd y Cynulliad o 1997 tan 2011. Mae hefyd yn Llywydd Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2011