Cennin Pedr i Ddydd Gŵyl Dewi
Mae blodyn cenedlaethol Cymru wedi cael swyddogaeth newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi (dydd Gwener, 1 Mawrth), sef helpu gwyddonwyr i gael gwell dealltwriaeth o werth echdynion planhigion fel dewis arall i wrthfiotigau mewn bwyd anifeiliaid.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Rural College yn yr Alban (SRUC) wedi ymuno i ymchwilio i effeithiau echdynion cennin Pedr fel gwrthficrobaidd naturiol ar systemau treulio gwartheg a defaid.
Mae gan echdynion planhigion y potensial i wella perfformiad twf ac iechyd, yn ogystal â lleihau methan a gynhyrchir gan eplesiad enterig sef proses dreulio lle caiff carbohydradau eu torri i lawr gan ficro-organebau.
Ond gall effeithiau bwydo echdynion planhigion i anifeiliaid fod yn anghyson. Priodolwyd hyn i wahaniaethau yng nghyfansoddiad yr echdynion, hyd yn oed pan fyddant yn cael eu paratoi o'r un ffynhonnell gan ddefnyddio'r un fethodoleg.
Gwelodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd gan Scientific Reports, bod gwahaniaethau bach iawn a wnaed i strwythur cemegol y cyfansoddion bio-actif yn yr echdynnyn cenin pedr - haemanthamin - wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i dreuliad yn y rwmen - stumog cyntaf anifeiliaid cnoi cil fel gwartheg a defaid.
Daeth y gwyddonwyr i'r casgliad os bydd echdynion planhigion yn cymryd lle gwrthfiotigau traddodiadol mewn bwyd anifeiliaid, yna bydd angen dull gweithredu ar y cyd sy'n cysylltu cemeg a bioleg i ddisgrifio effeithiau echdynion planhigion newydd.
Meddai Dr Eva Ramos-Morales o SRUC: "Roedd hi'n syndod mawr canfod y gallai cyfansoddion a ymddangosai'n debyg gael effeithiau mor wahanol ar dreuliad rwmen. Mae'r astudiaeth hon yn tynnu sylw at yr angen i safoni prosesau a chael echdynion planhigion gyda chyfansoddiad cemegol cyson er mwyn cael yr effeithiau cadarnhaol mwyaf posib mewn anifeiliaid."
Dywedodd Dr Paddy Murphy o Brifysgol Bangor:
"Mae swyddogaeth cemegwyr organig yn gwahanu cyfansoddion a geir yn naturiol o gynhyrchion gwastraff amaethyddol yn bwysig i ddatblygu deunyddiau newydd sy'n gynaliadwy'n amgylcheddol. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio echdynnu metabolynnau o sgil-gynhyrchion cennin Pedr a fydd o ddiddordeb i'r diwydiant fferyllol.”
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2019