Cerddi Anghyhoeddedig gan R.S. Thomas yn Dod i’r Fei
Newydd ei gyhoeddi, dan olygyddiaeth Yr Athro Tony Brown (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) a’r Athro Jason Walford Davies (Ysgol y Gymraeg), y mae casgliad o gerddi anghyhoeddedig gan un o feirdd mawr Cymru, R.S. Thomas. Y mae’r Athro Brown a’r Athro Davies yn Gyd-gyfarwyddwyr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor, y brif archif academaidd o waith y bardd.
Pan symudodd ail wraig y bardd, Betty Thomas, o’r bwthyn lle y bu’n byw gydag R.S. Thomas (a fu farw yn 2000), fe gyflwynwyd llyfrau personol Thomas i archif y Ganolfan. Yn ogystal â nifer o gyfrolau wedi eu harwyddo a roddwyd i Thomas gan feirdd cyfoes pwysig megis Geoffrey Hill, yr oedd ymhlith y llyfrau hyn ddwy astudiaeth sylfaenol bwysig ar gelf fodern: Art Now (1933) gan Herbert Read, un o brif feirniaid celf y cyfnod, a Surrealism (1936), a olygwyd gan Read ac sy’n cynnwys ysgrifau gan ffigyrau blaenllaw yn y mudiad Swrealaidd. Wedi eu gosod rhwng tudalennau’r ddwy gyfrol hyn fe ddarganfuwyd 36 o gerddi yn llaw Thomas – gweithiau nad oeddent yn hysbys cyn hyn. Cerddi ydynt sy’n ymateb i ddetholiad o’r atgynyrchiadau o weithiau celf modernaidd a geir yng nghyfrolau Read, yn cynnwys darluniau gan Henry Moore, Edvard Munch, Salvador Dalí, René Magritte a Graham Sutherland. Y mae’r casgliad newydd, Too Brave to Dream: Encounters with Modern Art, a gyhoeddir gan Bloodaxe Books, yn dwyn y cerddi hyn i olau dydd am y tro cyntaf, ynghyd ag atgynyrchiadau lliw o ansawdd uchel o’r gweithiau celf yr oedd Thomas yn ymateb iddynt.
Esboniodd Yr Athro Jason Walford Davies: ‘Mae teitl y gyfrol yn dod o gerdd a luniodd R.S. Thomas mewn ymateb i un o’r darluniau rhyfeddol hynny gan Henry Moore o bobl yn ceisio lloches yng ngorsafoedd rheilffordd danddaearol Llundain yn ystod y Blitz. Wrth iddyn nhw gysgu a breuddwydio, fe welir, uwch eu pennau, oroeswyr a wardeiniaid cyrchoedd bomio ‘poking / among the remains of others / who were too brave to dream’. Rydyn ni wedi defnyddio’r ymadrodd olaf hwnnw fel teitl gan fod y cerddi yn y casgliad, dro ar ôl tro, yn amlygu parodrwydd – heb ddelfrydu mewn unrhyw fodd – i fynd i’r afael â byd modern lle mae’r hen drefn, a’r hen sicrwydd, wedi’u tanseilio. Drwy’r cyfan mae yna ymdeimlad ag ansicrwydd – yng nghyswllt hunaniaeth bersonol a’r berthynas rhwng y rhywiau, er enghraifft – a hefyd gyfeiriadau cyson at wrthdaro o wahanol fathau. Maen nhw’n gerddi aflonydd, ac aflonyddol, sydd efallai’n dadlennu rhywbeth pwysig ynghylch cyflwr meddwl y bardd yn ystod y cyfnod hwyr hwn yn ei yrfa (mae’r llawysgrifau’n awgrymu bod diddordeb Thomas yn y cerddi hyn wedi parhau hyd ddegawd olaf ei fywyd)’.
Ychwanegodd Yr Athro Tony Brown: ‘Fel y trafodwyd yn y Rhagymadrodd i’r gyfrol newydd hon, roedd gan R.S. Thomas, er nad oedd yn ymweld yn gyson ag orielau a chasgliadau celf mawrion, ddiddordeb dwfn mewn celfyddyd weledol drwy gydol ei fywyd. Mae yna gerddi sy’n ymateb i weithiau celf i’w cael yn ei waith o’r dechrau – o’i gyfrol gyntaf, The Stones of the Field (1946), lle ceir cerdd mewn ymateb i ddarlun gan Augustus John, i gerdd ynghylch gwaith Paul Klee, a ymddangosodd yn 1995 yn y gyfrol olaf o farddoniaeth i’w chyhoeddi yn ystod ei fywyd, No Truce with the Furies. Y dylanwad pwysig yn y fan hon oedd gwraig gyntaf y bardd, Mildred ‘Elsi’ Eldridge, a oedd yn arlunydd nodedig o fri rhyngwladol. Roedd hi, wrth gwrs, nid yn unig wrthi’n peintio ac yn creu celf yn eu gwahanol gartrefi ar hyd y daith, ac yntau wrthi’n ysgrifennu, ond roedd hi hefyd yn athrawes ac yn diwtor celf. Fe nododd eu mab, Gwydion, sut roedden nhw ill tri yn defnyddio bocsys Elsi o atgynyrchiadau o weithiau celf ar ffurf cardiau post (a ddefnyddiai Elsi ar gyfer ei gwaith dysgu) mewn gemau a chwisiau cardiau teuluol. Roedd R.S. felly yn bur wybodus ynghylch artistiaid a mudiadau celf’.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2016