Cerddi Bangor ar y brig
Profiadau bywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor oedd wedi ysbrydoli un o’r cyfrolau a gyrhaeddodd Restr Fer Llyfr y Flwyddyn y llynedd.
Ei bortffolio Ysgrifennu Creadigol oedd 15 o’r cerddi yn Chwilio am Dân gan Elis Dafydd, a ddaeth i’r cyfri’ terfynol yn y categori barddoniaeth – ei gyfrol gynta’.
“Cerddi cyfnod coleg ydyn nhw,” meddai. “Cerddi yn codi o brofiadau myfyriwr ym Mangor, mynd allan efo ffrindiau, syrthio mewn cariad, y diwylliant ifanc.”
Bellach, mae’n crynhoi rhagor o brofiadau ac yntau’n gwneud Doethuriaeth yn adran y Gymraeg ar waith y nofelydd a’r beirniad, John Rowlands.
Un o’r profiadau hynny oedd teithio i Wlad Pwyl i gynhadledd am y diwylliant Celtaidd a rhoi darlith am un o ddigwyddiadau mwya’ cythryblus llenyddiaeth Gymraeg ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Rhwng darlithoedd am bynciau fel terfyniadau berfau a hen Wyddeleg, mi fu’n sôn sut yr oedd y nofel Ieuenctid yw Mhechod, gyda’i disgrifiad beiddgar o ryw, wedi siglo’r Sefydliad Cymraeg yn y 60au.
“John Rowlands oedd y peth agosa’ oedd gynnon ni at ‘angry young man’,” meddai Elis Dafydd. “Er fod ei nofelau wedi dyddio, eu pwysigrwydd nhw oedd bod eu heffaith mor bellgyrhaeddol.”
Mae’n dadlau bod John Rowlands – un o gyn-fyfyrwyr y Gymraeg ym Mangor - wedi helpu i agor pennod newydd yn hanes y nofel ond fod ei gamp wedi’i chuddio braidd oherwydd swmp ei waith beirniadol a’i wyleidd-dra yntau.
Profiad arall gwerthfawr i Elis ei hun yw cymryd tiwtorialau a seminarau gyda myfyrwyr heddiw – mae’n ddisgyblaeth dda, meddai, ac yntau bron hanner ffordd trwy ei waith ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2018