Cerddoriaeth ffermydd gwynt
Bydd y ffermydd gwynt ar y môr ger Llandudno yn ysbrydoli ac yn darparu’r sain i gyfansoddiad cerddorol ar gyfer Gŵyl LLAWN Llandudno gan Ed Wright, sy’n ddarlithydd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyfansoddwr ac artist sonig. Bydd yn perfformio fel y ‘Labordy Tonnau Sonig’ gyda Charles Gersholm.
Bydd y ddau artist sain lleol yn cynhyrchu gwaith celf sonig a grëwyd gan natur a’i ffurfio gan ddefnyddio peiriannau o waith dyn. Bydd peiriannau mawr sy’n cylchdroi ac yn cynnwys synwyryddion yn cael eu gosod yn y cysgodfeydd ar bromenâd Llandudno. Byddant yn rhyngweithio gyda phobl sy’n cerdded heibio a fydd yn clywed sŵn yn dod yn uniongyrchol o gyfeiriad y fferm wynt, gan greu cyfansoddiad sain sy’n newid drwy’r amser. Bydd y tyrbinau bach dros dro yn ffurfio pumawd y gellir gwrando arnynt yn unigol neu o du mewn i ‘labordy’ y cyfansoddwyr, sef hen beiriant ymdrochi.
Cynhelir y perfformiad rhwng 12.00- 6.00 pm yn ystod penwythnos yr ŵyl, (19- 21 Medi), a bydd yn un o nifer o ddigwyddiadau am ddim a fydd yn rhoi dehongliadau amrywiol am orffennol, presennol a dyfodol tref Llandudno.
Mae gan y cyfansoddwr, Ed Wright, ddiddordeb mewn cyfuno technoleg ddigidol gyda ffurfiau mwy confensiynol o wneud cerddoriaeth ac mae’n ymddiddori hefyd mewn celf a cherddoriaeth aml-gyfrwng. Enillodd ei ddoethuriaeth mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor lle mae’n ddarlithydd erbyn hyn. Mae’n mwynhau’r agwedd electroacwstig ar gerddoriaeth, gan ddal a datblygu seiniau o’r byd go iawn a’u troi’n strwythurau cerddorol, yn aml gyda chymorth cyfrifiaduron a systemau trosglwyddo sain.
Meddai: “Mae’n wych cael y cyfle i weithio gyda phwnc sydd mor ddiddorol ac sy’n gallu hollti barn pobl. Gall llawer o bobol sy’n byw yn yr ardal weld y melinau ar y gorwel ar ddiwrnodau clir ac mae’n ddiddorol ymchwilio i weld beth yw effaith emosiynol hyn mewn diwylliant, yn ogystal â’r effaith gwyddonol ac ecolegol. Mae hefyd yn her greadigol wych, i gael cydweithio gyda Charles yn defnyddio ei gerfluniau o felinau gwynt i greu cerddoriaeth wrth i bobl a natur ymwneud â nhw. Bydd y tyrbinau yn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i’r peiriant ymdrochi; er enghraifft, pa mor gyflym mae’r tyrbin yn troi, neu pa mor gymylog yw’r awyr. Bydd y seiniau a’r samplau o’r ardal leol (yn cynnwys rhai allan wrth y fferm wynt) yn cael eu trawsffurfio a’u mynegi yn ôl y tywydd y diwrnod hwnnw a sut y mae pobol yn ymateb i’r melinau eu hunain. Gobeithio y bydd hyn yn creu gwaith sy’n llawn hwyl, harddwch ac yn ysgogi rhywun i feddwl.”
Ganwyd Charles Gershom yn Llandudno ac mae wedi dychwelyd yno’n ddiweddar. Mae wedi ymddiddori mewn technoleg ar hyd ei oes. Graddiodd ym Mehefin 2013 gyda gradd BA ddosbarth cyntaf mewn Celf Gain, ac ers hynny mae wedi gwneud gwaith a gomisiynwyd gan y BBC. Bydd yn arddangos ei waith yn rheolaidd ac yn cefnogi sawl project drwy ddarparu gwybodaeth dechnolegol fel artist a thechnolegydd. Mae llawer o’i waith yn rhoi sylw i beiriannau a adeiladwyd yn arbennig gan ddefnyddio offer electronig defnyddwyr wedi eu datgymalu. Mae Charles yn eu defnyddio i greu gosodiadau electronig, perfformiadau sain a fideos a gynhyrchir gan gyfrifiaduron ynghyd ag ychydig o estheteg fecanyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2015