Cerddorion yn paratoi i losgi piano!
Bydd aelodau o Ysgol Cerdd Prifysgol Bangor yn ymuno gydag Annea Lockwood, artist sain o Seland Newydd / UDA mewn perfformiad o 'Piano Burning’ yn Hen Iard Nwyddau Treborth, Bangor. Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 29 Mehefin am 6.15pm, a bydd yn rhan o lansiad tymor newydd Dinas Sain Bangor.
Yn ystod y cyfle prin hwn i weld Annea Lockwood yn perfformio ei gwaith arloesol 1968 ‘Piano Burning’, bydd y darlithwyr Xenia Pestova ac Ed Wright yn ymuno â’r artist, ynghyd â’r myfyriwr MA ym Mangor, Sarah Westwood, a fydd yn canu’r piano cyn iddo gael ei roi ar dân a’i losgi, ac yn ystod y llosgi. Yn dilyn hyn ceir perfformiadau eraill gan ‘The Old Goods Yard Artists' Collective’ a'u gwesteion, gan gynnwys barddoniaeth fyrfyfyr gan Martin Daws, Bardd Llawryfog Pobl Ifanc Cymru.
Dywedodd Xenia Pestova, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor: "Mae gwaith Annea Lockwood yn bwysig iawn i mi oherwydd fy etifeddiaeth Seland Newydd. Rydw i’n cofio dysgu am "Piano Burning" yn ystod fy astudiaethau israddedig, felly mae'n gyffrous ac arbennig iawn gallu perfformio'r darn - ac ym mhresenoldeb y cyfansoddwr. Rydw i’n edrych ymlaen at glywed y synau a wnaed gan y pren a'r llinynnau fel maent yn llosgi.
“Bydd y perfformiad hefyd yn cael ei ddarlledu ar y we yn fyw yr un pryd fel "Gardd Piano" Annea ac "Eastern Exposure" yn Llanrwst a Harwich. Rydw i hefyd yn gweld hyn (er nad hyn yw’r pwynt, wrth gwrs!) i "ddial" o ryw fath ar y piano, ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd o waith caled ar yr allweddell! "
Dywedodd Iwan G. Williams o Dinas Sain Bangor: "Mae'n wych bod artist sain pwysig a chyffrous fel Annea Lockwood yn dod i ogledd Cymru, ac yn wych cael gweithio gyda chymaint o artistiaid lleol hefyd. Mae’r sgôr ar gyfer 'Llosgi Piano' yn dweud y gall pianyddion barhau i chwarae hyd yn oed ar ôl cynnau'r piano, felly bydd yn ddiddorol gweld pa mor hir maent yn chwarae cyn bod eu bysedd yn mynd yn rhy boeth! "
Bydd sain o'r digwyddiad, gan gynnwys chwarae a llosgi'r piano, yn cael eu cofnodi ac ar gael ar www.bangorsoundcity.org. Mynediad am ddim a lluniaeth ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2013