Ceri yn mynd y 400 milltir ychwanegol ar gyfer Gofal Dementia a chlefyd Alzheimer
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor sy'n graddio'r wythnos hon wedi datblygu angerdd o'r fath ar gyfer ei phwnc, mae hi wedi beicio ar draws Fietnam.
Cynhaliodd Ceri Williams, 28, o Dreffynnon, yr her 400 milltir, 12 diwrnod i godi arian ar gyfer Cymdeithas Alzheimer, a hyn i gyd drwy jyglo ei hastudiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol wrth weithio i asiantaeth gofal iechyd.
Dros y pedair blynedd a hanner diwethaf, mae ei swydd wedi dod â hi i gysylltiad agos â nifer o gleifion sydd yn y camau cynnar, neu fwy datblygedig, o ddementia, ac mae’r mewnwelediad yma wedi gadael argraff barhaol arni. "Mae hwn yn salwch sydd wedi fy niddori oherwydd er bod yr unigolyn gyda ni yn gorfforol, maent wedi mynd i ffwrdd yn feddyliol", meddai’r cyn-fyfyriwr o Goleg Glannau Dyfrdwy. "Nid oes ganddynt unrhyw gydnabyddiaeth o'u bywyd ac atgofion, sydd yn drist iawn ac yn rhwystredig ar gyfer y sawl sy'n dioddef a'r teulu."
Fe wnaeth gradd Ceri roi’r cyfle perffaith iddi ymchwilio i’r pwnc ymhellach. Mae wedi dod yn agos at ei chalon, a dyma’i dewis ar gyfer pwnc ei thraethawd hir yn y flwyddyn olaf. "Roeddwn i eisiau edrych ar y cyfyngiadau mae gofalwyr a lleoliadau gofal yn eu hwynebu, megis cyllid a hyfforddiant, wrth ddarparu gofal digonol i bobl sy'n dioddef o ddementia", meddai Ceri. "Rwyf hefyd wedi cymharu lleoliadau preifat gyda gofal y cyngor i weld pwy sy’n darparu’r gofal 'orau' ac i benderfynu a ydynt yn wynebu'r un cyfyngiadau o ran ariannu a hyfforddi staff."
Er i’r radd ennyn ei diddordeb yn ei gwaith bob dydd, bu gweithio i asiantaeth gofal yn llawer o fudd i’w gweithgareddau academaidd: "rydw i wedi elwa mewn sawl ffordd o wneud y swydd hon wrth astudio, gan ei bod wedi fy ngalluogi i arsylwi sut mae pobl yn byw gyda'r anawsterau mae pobl ag anableddau corfforol a meddyliol yn eu hwynebu", meddai. "Mae wedi agor fy meddwl i nifer o sefyllfaoedd a’m dysgu i fod yn fwy meddylgar o anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Mae hyn wedi bod o fudd i’m hastudiaethau gan ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol â'r pynciau dan sylw."
Ond nid yw diddordeb Ceri yn cael ei gyfyngu i'r ystafell ddosbarth. Yn 2013 penderfynodd ei bod eisiau cynyddu ymwybyddiaeth o Gymdeithas Alzheimer, a chodi arian ar gyfer yr achos. Mae hi wedi trefnu sawl digwyddiad yn ei thref enedigol, Treffynnon, gan godi £5,000 ar gyfer yr elusen, ac uchafbwynt y rhain oedd taith feicio 400 milltir, 12 diwrnod ar draws Fietnam. Er gwaethaf rhai o’r cyfnodau isel, er enghraifft yr un wyneb cyfarwydd i'w chysuro ar ddiwedd diwrnod blinedig o feicio, mae hi'n ei gofio fel y profiad gorau mae hi erioed wedi ei gael. "Mi wnes i gyfarfod â phobl wych o bob math o gefndiroedd ac mi wnes i wneud llawer o ffrindiau. Roedd y rhai eraill ar y daith i gyd yn cynrychioli achosion gwahanol, ac roeddem i gyd yn annog ein gilydd ymlaen. Yr uchafbwynt oedd gweld y gwir Fietnam, nid yn unig yr ardaloedd twristiaid. Mi wnes i feicio drwy ardaloedd helaeth o gefn gwlad a gweld sut y mae'r bobl leol yn byw, ac mi ges i ddarganfod gwlad wirioneddol anhygoel ar feic - y ffordd orau i wneud hynny."
Ym mis Hydref, bydd Ceri yn parhau â'i chenhadaeth i godi arian drwy redeg Marathon Dulyn er budd Cymdeithas Alzheimer. Tua'r un pryd, bydd hefyd yn dechrau astudio MA dwy flynedd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. "Rwyf wedi mwynhau astudio, a’r penderfyniad gorau wnes i oedd dychwelyd i addysg ar ôl cymryd ychydig o flynyddoedd allan i weithio", meddai Ceri, sy'n gobeithio dod yn weithiwr cymdeithasol. "Drwy adael astudio nes fy mod i ychydig yn hŷn, rydw i wedi gwerthfawrogi'r profiad yn fwy nag y byddwn wedi ei wneud ar ôl gadael y chweched dosbarth. Rwyf hefyd wedi cael syniad cliriach o'r math o yrfa y dymunaf ei dilyn."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014