CERQual: Dull newydd o gefnogi defnyddio tystiolaeth ansoddol wrth wneud penderfyniadau
Mae papur newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn PLOS Medicine yn disgrifio dull gweithredu arloesol ac eglur i asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn darganfyddiadau o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol.
Bwriad y dull gweithredu newydd, a elwir yn CERQual (‘Confidence in the Evidence from Reviews of Qualitative research’), yw helpu rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol ar gyfer penderfyniadau a pholisiau’n ymwneud â gofal iechyd a lles cymdeithasol.
Pam mae CERQual yn bwysig?
Gall darganfyddiadau o ddadansoddiadau ymchwil ansoddol helpu i roi tystiolaeth ynghylch ymarferoldeb a phriodoldeb ymyriadau. Gallant roi gwell golwg hefyd ar ffactorau sy’n dylanwadu ar weithredu ymyriadau. Defnyddir dadansoddiadau o’r fath yn gynyddol wrth wneud penderfyniadau’n gysylltiedig ag iechyd a pholisïau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae’r papur yn dangos nad oedd llawer o sylw wedi ei roi tan yn ddiweddar i asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn darganfyddiadau’n deillio o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol.
Meddai’r Athro Jane Noyes o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor a chyd-ddatblygwr y dull CERQual o weithredu, “gall defnyddio CERQual helpu awduron dadansoddiadau tystiolaeth ansoddol i ystyried, dadansoddi ac adrodd ar ddarganfyddiadau adolygiad mewn ffordd fwy defnyddiol. Gall CERQual helpu rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a defnyddwyr eraill, i ddeall faint o ffydd i’w roi mewn darganfyddiadau o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol. Bydd hyn yn eu cynorthwyo i farnu faint o bwyslais i’w roi ar ddarganfyddiadau pan maent yn gwneud eu penderfyniadau.”
Mae’r dull gweithredu CERQual wedi cael ei ddefnyddio eisoes mewn dwy ddogfen ganllaw a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Meddai Metin Gülmezoglu, o Adran Iechyd ac Ymchwil i Atgenhedlu yn WHO, a oedd yn gyfrifol am un o’r canllawiau hyn: “Mae’r dull CERQual o weithredu yn werthfawr iawn i’n helpu i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol yn briodol wrth ddatblygu’r argymhellion. Rydym yn rhagweld y defnyddir y dull hwn yn helaeth yn WHO yn y dyfodol, ac mewn sefydliadau eraill sy’n ymwneud â datblygu canllawiau.”
Cyfleoedd newydd
Mae CERQual yn cael ei ddatblygu gan is-grŵp o GRADE (Grading of Recommendations Assessment, Development, and Evaluation) (www.gradeworkinggroup.org). Yn y gweithgor hwn gwelir cydweithio anffurfiol ymysg rhai sydd â diddordeb a budd mewn asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn tystiolaeth yn deillio o ddadansoddi tystiolaeth ansoddol. Rydym yn annog rhai sy’n awyddus i weithio yn y maes hwn i ymuno â’n grŵp drwy ein gwefan (www.cerqual.org) a chyfrannu at ddatblygu’r dull gweithredu CERQual.”
Mae’r papur CERQual yn awr ar gael am ddim ar wefan PLOS Medicine yn : http://journals.plos.org/plosmedicine/article?id=10.1371/journal.pmed.1001895
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2015