Chango Spasiuk, enillydd Grammy o Dde America, yn dychwelyd i Pontio Bangor
Y perfformiwr nesaf yn rhaglen cabaret lwyddiannus Pontio o nosweithiau cerddorol hamddenol fydd Chango Spasiuk, chwaraewr acordion o'r Ariannin, a fydd yn perfformio yn Theatr Bryn Terfel nos Wener, 18 Tachwedd am 8 o'r gloch.
Yn enillydd Gwobr Cerddoriaeth Byd y BBC ac wedi'i enwebu am wobr Grammy De America, mae ymweliad Spasiuk â Phrydain yn ystod ei daith hydref eleni yn un hir ddisgwyliedig.
Yn yr Ariannin, ystyrir Chango Spasiuk fel arwr newydd chamamé, y gerddoriaeth 'gyda'r swing dyfnaf yn yr Ariannin'. Mae gan yr arddull gynnes hon, sydd wedi'i seilio ar chwarae'r acordion, wreiddiau yn y diwylliant Guarani brodorol, yn ogystal â diwylliannau Sbaen, Criollo a Dwyrain Ewrop. Ei chartref naturiol yw tiroedd coch a choedwigoedd trwchus gogledd-ddwyrain yr Ariannin, lle ganwyd Spasiuk i deulu o ymfudwyr o'r Wrcain.
Mae'n berfformiwr tanllyd a sensitif ar ei acordion ac yn dod â'i garisma arbennig i'w berfformiadau byw. Mae ei bresenoldeb fel derfis cynhyrfus ar y llwyfan a'i ensemble rhagorol yn cynhyrchu cerddoriaeth o harddwch ac angerdd dwfn, gan gymysgu pruddglwyfni ag optimistiaeth wydn.
Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio: "Mae'n hen bryd i Chango ddod yn ôl i Gymru - ac yn yr wythnos mae Cymru'n chwarae rygbi yn erbyn ei wlad enedigol hefyd. Bydd yn dod â chynhesrwydd a bywiogrwydd ei gyfuniad hudolus o swing a thristwch, ei dalent syfrdanol a swyn carismataidd pur a phresenoldeb i'n rhaglen cabaret misol yn Theatr Bryn Terfel. Cefnogwyr Spasiuk - (ac mae yna lawer ohonoch allan yna) ... mae Chango yn ei ôl! “
Cabaret Pontio: Chango Spasiuk Argentinian
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
£14/£12
Tocynnau: www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28
Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.makingtrackslive.org.uk/chango-spasiuk
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2016