Chargé d’Affaires Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn ymweld â Phrifysgol Bangor
Bu dirprwyaeth o llysgenhadaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar. Yn eu plith oedd Chargé d’Affaires y Llysgenhadaeth, Madame Marie-Louise Kafenge Nanga, a oedd yn awyddus i archwilio Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol a’u dogfennau yn ymwneud â’r Parchedig William Hughes a’r Congo Training Institute ym Mae Colwyn.
Ganed y Parchedig William Hughes ym 1856 yn Rhoslan, Eifionydd ac yn dilyn cyfnod fel cenhadwr yng nghyfandir Affrica, sefydlodd y Congo Training Institute ym Mae Colwyn yn 1885. Fel y nododd Hughes yn ei lyfr, Dark Africa and the way out; or, A scheme for civilizing and evangelizing the dark continent (1892): ‘The Congo Training Institute was established with the view of training African young men in this country, in the hope that many of them will return to their native land either as missionaries, schoolmasters or useful handicraftsmen – such as carpenters, blacksmiths, masons, bricklayers, wheelwrights, tailors etc.’
Ar ôl mynd i ddyled sylweddol ac yn dilyn sgandal yng ngwasg anoleuedig y cyfnod, daeth diwedd ar yr Institute yn 1911.
Meddai Elen Simpson, Pennaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol:
‘Mae gennym nifer o ddogfennau yn ymwneud â’r Parchedig William Hughes a’r Congo Training Institute yn ein archif, gan gynnwys adroddiadau blynyddol sy’n cynnig cip i ni ar yr ‘hyfforddiant’ oedd yn cael ei ddarparu ar gyfer y ‘Congo boys’ a hefyd manylion ynghylch y gefnogaeth yr oedd y sefydliad yn ei dderbyn gan unigolion amrywiol pan yr oedd yn ei anterth. Roedd cael dangos y dogfennau hyn i Madame Kafenge Nanga a’i dirprwyaeth yn bleser ac yn anrhydedd o’r mwyaf.’
Nid yw hanes William Hughes a’i sefydliad yn hysbys gan lawer yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo heddiw. Trefnwyd yr ymweliad hwn gan Norbert Mbu-Mputu, bardd ac awdur o Congo sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghasnewydd ac sy’n ceisio ailgloriannu’r berthynas hanesyddol rhwng Cymru a Congo fel rhan o broject sydd wedi ei noddi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2016