Charles Dickens: Dathliad Pen-blwydd
Bydd Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor yn dathlu pen-blwydd 200 Charles Dickens (1812-1870) ar ddydd Mawrth 7 Chwefror gan ddangos dwy ffilm fer sydd yn addasiadau o waith cynnar yr awdur.
Bydd y digwyddiad, yn dechrau am 5pm yn Ystafell Ddarlithio 5 ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Bydd dangosiadau o addasiadau o 'Scrooge, Or , Marley yn Ghost' (1901, 4 munud) ac 'Oliver Twist' (1909, 9 munud ) yn ogystal â darlleniadau o rai o weithiau mwyaf enwog Dickens, gan gynnwys 'The Shipwreck’ a gafodd ei ysbrydoli gan ymweliad Dickens i Ynys Môn yn 1859.
Bydd arddangosfa o ddeunydd prin Dickens, sydd yn rhan o gasgliad Llyfrau Prin y Brifysgol, yn cael ei gynna yn hwyrach yn y tymor hefyd.
Dyweddodd y darlithydd Stephen Colclough: “Mae Charles Dickens yn un o’r ffigyrau pwysicaf yn hanes llenyddiaeth Prydain. Mae ei waith yn cyfuno sgiliau newyddiadurwr, golygydd ac nofelydd ac dyna pam mae’r Ysgol Saesneg wedi penderfynu marcio 200 mlynedd ers ei eni gyda dathliad penblwydd ar Chwefror 7fed yn ogystal ac arddangosfa i ddilyn.”
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2012